Mae Ben Lake AS yn un o dros 150 ASau sydd wedi dod ynghyd i roi pwysau ar y llywodraeth i ddiogelu y diwydiant theatr trwy gydol yr argyfwng Covid-19.
Mae’r celfyddydau yng Nghymru yn wynebu sialens hollol newydd. Tra bod theatrau yn dal ar gau, mae miloedd o berfformwyr, cynllunwyr ac artistiaid eraill yn darganfod eu hunain allan o waith heb unrhyw sicrwydd pa bryd y byddant yn cael dychwelyd. Ac eto, i’r gwrthwyneb, un llinyn achub sydd wedi cynorthwyo pobl i ymgodymu yn ystod y cyfnod clo yw’r celfyddydau – boed hynny yn gerddoriaeth, yn lyfr da, neu’n wylio ffilm neu ddrama deledu.
Mae theatr, cerddoriaeth a dawns yn arbennig o fregus gan nad oes yna fodel economaidd sy’n caniatau iddynt weithredu gydag ymbellhau corfforol, hyd yn oed pe bai y rheol 2 fetr yn cael ei lleihau. Mae arweinwyr diwydiant yn dweud y byddai cyfartaledd cynulleidfa ar gyfer 2 metr yn golygu 20% o gynhwyster; gydag 1 metr byddai’n 30-35%.
Mae lleoliadau ar hyn o bryd yn dal i fodoli oherwydd cynllun ffyrlo y llywodraeth, ond bydd y cynllun hwnnw yn cael ei dapro ym mis Awst ac yn dod i ben yn yr Hydref.
Mewn llythyr a anfonwyd i’r Prif Weinidog, Boris Johnson, mae 158 o ASau a chymheiriaid yn hawlio gweithredu ar fyrder, “er mwyn achub y sector a chaniatau i theatr gyfrannu i lwyddiant y DU.”
Dywyd llythyr a ysgrifennwyd gan Gymdeithas y Theatr yn Llundain, Theatr y DU ac Un Dawns y DU, “At ei gilydd mae’r effaith wedi bod yn uniongyrchol a dinistriol; mae’r canlyniadau canol a hir dymor yn golygu bygythiadau i lesiant economaidd, cymdeithasol a diwylliannol cymunedau ar draws y DU.”
Dywedodd Ben Lake AS:
“Mae’r theatr a sector y celfyddydau perfformio yn wynebu sialens unigryw, nid yn unig mae’r sector wedi cael ei effeithio’n sylweddol gan y pandemig feirws corona, ond mae’r modd mai lleoliadau yn gweithio yn golygu y byddain’n profi’n amhosibl i’r sector ailagor tra’n glynu at ganllawiau ymbellhau cymdeithasol. Mae’n holl bwysig bod y sector yn cael ei warchod am ba hyd bynnag nes byddant yn medru ailagor yn ddiogel. Felly, rwy’n llwyr gefnogol o’r cynigion a amlinellir yn y llythyr i’r Prif Weinidog.”