Mae Adran Addysg Llywodraeth y DU yn ymgynghori ar hyn o bryd ar y bwriad i ddosbarthu hyd at £910 miliwn o gyllid ychwanegol i ysgolion a cholegau yn Lloegr er mwyn cwrdd â chostau uwch cynllun pensiwn i athrawon yn 2019-20, sy’n deillio o ganlyniad i newidiadau yn y modd mae gradd gostyngiad wedi ei osod gan y Trysorlys ar brisiadau o gynlluniau pensiwn y gwasanaeth cyhoeddus.
Er bod addysg yn gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru, mae’r newidiadau i atebolrwydd y cyflogwr o dan Gynllun Pensiwn Athrawon yn mynd i gael effaith ar gyllideb ysgolion a cholegau yng Nghymru. Gan bod y newidiadau hyn i gyfraniadau y cyflogwr yn ganlyniad i benderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth Prydain, mae’n holl bwysig bod y Trysorlys yn darparu cyllid er mwyn cwrdd â’r cynnydd yng Nghymru fel maent yn bwriadu ei wneud yn Lloegr.
Mae Ben Lake, AS Ceredigion, wedi galw ar Lywodraeth y DUi egluro a fydd y cyllid sydd wedi ei bennu i gwrdd â’r cynnydd yng nghyfraniadau pensiwn yn Lloegr ar gael hefyd i ysgolion a cholegau yng Nghymru.
Dywedodd Ben Lake:
“Cafodd ysgolion a cholegau yn Lloegr sicrwydd gan Lywodraeth Prydain y byddant yn derbyn cyllid ychwanegol yn 2019-20 i dalu am gostau ychwanegol cyfraniadau pensiwn. Mae’n hanfodol bod ysgolion a cholegau yng Nghymru, sydd â’u cyllidebau eisoes o dan straen enfawr yn cael yr un gefnogaeth. Wedi’r cwbl, mae Datganiad y DU ar Bolisi Cyllid yn dweud yn glir mai Llywodraeth Prydain fydd yn cwrdd â chostau ychwanegol i’r cyrff datganoledig gweinyddol o ganlyniad i benderfyniadau Llywodraeth Prydain.
"Mae’n hollbwysig bod y cynnydd hwn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU, oherwydd fel arall bydd yn cael effaith ddifrifol ar gyllidebau ein hysgolion a’n colegau. Ni all ysgolion ar draws Ceredigion fforddio cost arall ddigyllid ar gyllidebau sydd eisoes yn wynebu argyfwng.”