Mae Llywodraeth Prydain wedi dweud y bydd yn cyfrannu £23.5m ychwanegol i Gymru tuag at godiad cyflog i athrawon yn dilyn archwiliad a phwysau gan Ben Lake AS
Ar 24 Gorffennaf cyhoeddodd Ysgrifennydd Addysg Prydain godiad cyflog i athrawon ar draws Cymru a Lloegr a fyddai’n dod yn weithredol o fis Medi ymlaen. Cyhoeddwyd manylion sut y byddai’r codiad cyflog yn cael ei ariannu yn Lloegr ond mewn ymateb i gwestiwn gan Jonathan Edwards AS Plaid Cymru dywedodd y Gweinidog Addysg y byddai’n disgwyl i Lywodraeth Cymru dalu am y codiad yng Nghymru, a hynny er gwaethaf fod y cyfrifoldeb yn gorwedd ar ysgwyddau Llywodraeth San Steffan.
O ganlyniad, dechreuodd y flwyddyn academaidd hon i ysgolion ac awdurdodau addysg ar draws Cymru gydag ansicrwydd ynglŷn â pha swm fyddai’n rhaid iddynt hwy dalu tuag at godiad cyflog a oedd i’w groesawu i athrawon, a hynny mewn cyfnod o grebachu cyllidebau ysgolion a llywodraeth leol.
Yn dilyn y cyhoeddiad ym mis Gorffennaf, mae grŵp AS Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Prydain i weithredu. Danfonwyd gohebiaeth ysgrifenedig i’r Trysorlys ac i Ysgrifennydd Addysg Prydain yn ystod gwyliau’r haf a gosodwyd mesur gerbron y Tŷ ar 5 Medi gan Jonathan Edwards AS Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Prydain i ddarparu cyllid ychwanegol angenrheidiol er mwyn gwireddu y codiad cyflog yng Nghymru.
Yn ystod cyfarfod Pwyllgor Materion Cymreig fe wnaeth Ben Lake AS annog Ysgrifennydd Gwladol Cymru i godi’r mater hwn gyda’i gydweithwyr yn yr Adran Addysg ac yn ystod sesiwn gwestiynau y Prif Weinidog ar 12 Medi gofynnodd Mr Lake i’r Prif Weinidog i ymyrryd.
Ar 13 Medi, cyhoeddodd Trysorlys Prydain y byddent yn rhyddhau £23.5m tuag at godiad cyflog athrawon yng Nghymru.
Mewn ymateb, dywedodd Ben Lake AS, sylwebydd Plaid Cymru ar addysg yn San Steffan:
“Rwy’n falch dros ben ein bod wedi llwyddo i sicrhau cyllid ychwanegol tuag at godiad cyflog athrawon yng Nghymru. Mae athrawon Cymru wedi cael eu gweithio’n rhy galed ar gyflogau rhy isel am gyfnod llawer yn rhy hir o dan doriadau San Steffan ac roedd y cyhoeddiad y mis diwethaf am godiad cyflog yn orddyledus.
“Mae’r cyfrifoldeb dros bennu cyflogau athrawon yn dal yn nwylo Llywodraeth Prydain, ac yn yr un modd mater o ariannu codiadau cyflog. Gwnaed y cyhoeddiad i ddarparu codiad cyflog i athrawon Cymru heb ymgynghori gyda Llywodraeth Cymru, ac mae’n ymddangos heb unrhyw ystyriaeth o’r modd y byddai’n cael ei ariannu.
“Mae’n athrawon yn haeddu cael cyflog barchus, ac rwy’n falch iawn bod grŵp AS Plaid Cymru wedi llwyddo i roi pwysau ar Lywodraeth Prydain i wrthdroi eu penderfyniad gwreiddiol a thrwy hynny ryddhau cyllid ychwanegol i Gymru.”
https://youtu.be/JwaL5qwoWrw