Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun talebau tanwydd a fydd yn darparu cymorth argyfwng i'r aelwydydd hynny sy'n gorfod talu ymlaen llaw am eu hynni ac sy'n methu gwneud hynny.
Nid yw aelwydydd sy'n ei chael yn anodd talu costau ynni wedi'u cyfyngu i filiau ynni domestig trydan a nwy o’r prif gyflenwad. Yng Nghymru, mae tua un o bob deg aelwyd yn dibynnu ar olew gwresogi neu nwy hylifedig ar gyfer eu gofod domestig a gwresogi dŵr. Mewn ardaloedd gwledig, mae hyn yn cynyddu i 28% o aelwydydd. Mae'n rhaid i'r aelwydydd hyn hefyd dalu ymlaen llaw am eu tanwydd. Mae llawer wedi nodi bod cost olew gwresogi wedi mwy na dyblu dros y ddau fis diwethaf ac mae adroddiadau yn nodi bod cyflenwyr yn gwrthod darparu dyfynbrisiau ar gyfer danfoniadau olew, gan bennu'r pris ar y diwrnod y bydd yn cael ei ddanfon.
Mae aelwydydd sy'n dibynnu ar fesuryddion talu ymlaen llaw yn talu tariff drutach o'i gymharu â mesuryddion credyd safonol. Mewn rhai achosion, mae taliadau sefydlog a ddyblodd ym mis Ebrill yn parhau i gronni pan fydd deiliaid tai yn hunan-ddatgysylltu am eu bod yn pryderu am gostau ynni.
Dywedodd Elin Jones AS: ‘Mi fydd y cynllun yn darparu talebau i gwsmeriaid sydd ar fesuryddion talu ymlaen llaw a bydd gwasanaeth argyfwng newydd yn cael ei lansio ar gyfer aelwydydd nad ydynt ar y grid nwy, ac nad ydynt yn gallu fforddio prynu poteli nwy neu lenwi eu tanc olew, eu storfa goed neu eu byncer glo. Yng Ngheredigion, nid yw’r rhan helaeth o aelwydydd wedi eu gysylltu â phrif gyflenwad tanwydd, a pan maent yn archebu olew mae raid iddynt dalu balans yr archeb yn llawn, cyn derbyn y cyflenwad. Mae hyn tu hwnt i afael nifer o deuluoedd gyda’r prisoedd cyfredol. Os ydych chi’n cael trafferth talu eich biliau gwres, gallwch cysylltu gyda changen lleol Cyngor ar Bopeth, neu drwy wasanaeth Advice Link Cymru, a bydd modd iddynt drafod eich sefyllfa gyda chi.’
Dangos 1 ymateb