Elin yn codi'r ymgyrch yn erbyn cau Swyddfa Bost Aberystwyth gyda'r Prif Weinidog
Mae Elin Jones wedi trafod yr ymgyrch yn erbyn symud Swyddfa Bost Aberystwyth o'i leoliad presennol ar y Stryd Fawr yn sesiynau cwestiynau'r Prif Weinidog yn y cynulliad yr wythnos hon. Cliciwch isod i weld beth oedd ei ymateb:
https://www.youtube.com/watch?v=YqYHzgXab0c
Pryder am Swyddfa Ddidoli Tregaron
Mae Elin Jones wedi galw am drafodaethau ynglŷn â dyfodol swyddfa ddidoli y Post Brenhinol yn Nhregaron.
Mae’r Swyddfa Bost yn y dref i fod i symud o’i leoliad presennol i’r siop Spar, sydd ar y sgwâr. Fodd bynnag, mae cangen y Swyddfa Bost presennol hefyd yn gartref i swyddfa ddidoli ac yn fan codi parseli, ac nid oes unrhyw wybodaeth wedi dod i law ynghylch sut y bydd hyn yn cael ei effeithio gan y newid.
Darllenwch fwyDeiseb Swyddfa Bost Aberystwyth
Ymunwch yn yr ymgyrch yn erbyn cau prif Swyddfa Bost Aberystwyth.
Rwy'n gwrthwynebu cynllun y Swyddfa Bost i israddio swyddfa Aberystwyth a'i symud o'i leoliad presennol, ac yn galw ar Swyddfa Bost Cyf. i ailystyried ei phenderfyniad.