Deiseb Ffordd Aberteifi i Gaerfyrddin
Rwyf i yn cytuno fod angen gwelliannau i'r ffyrdd rhwng Aberteifi, Llechryd, Castellnewydd Emlyn a Chaerfyrddin, ac yn galw ar Weinidog Trafnidiaeth Cymru i flaenoriaethu buddsoddiad yn y llwybr hanfodol yma.
Ymgyrch Ffordd Aberteifi i Gaerfyrddin
Mae cynrychiolwyr Plaid Cymru o Geredigion a Sir Gâr wedi galw heddiw am gynllun o welliannau taer i’r heolydd sydd yn cysylltu Aberteifi a Chaerfyrddin mewn deiseb sydd yn adleisio rhai o bryderon mwyaf hir sefydlog trigolion yr ardal.
Anogwyd Llywodraeth Cymru i gywiro flynyddoedd o dan-fuddsoddiad yn y rhwydwaith gan Elin Jones AC a Jonathan Edwards AS, a mynnodd y ddau y dylai’r heolydd sydd yn rhedeg rhwng Aberteifi, Castell Newydd Emlyn, a Chaerfyrddin cael blaenoriaeth o hyn ymlaen ar unrhyw gynllun arall o fuddsoddiad isadeiledd.
Darllenwch fwy