Gwasanaeth Bws o Aberystwyth i Gaerdydd wedi ei uwchraddio a’i adfer yn llawn yn dilyn ymgyrch llwyddiannus gan Elin Jones AC
Ar ôl ymgyrch hir gan Elin Jones AC, mae’r bws T1C, sy’n teithio’n uniongyrchol rhwng Aberystwyth a Chaerdydd wedi cael ei uwchraddio i goets ac yn gweithredu gwasanaeth llawn 7 diwrnod yr wythnos gyda lleihad amlwg yn hyd y siwrnai.
Dros flwyddyn yn ôl, daeth y T1C i ben gan Lywodraeth Cymru cyn i Elin Jones ymyrryd a galw ar Weinidog Trafnidiaeth Cymru i ailystyried.
Dywedodd Elin Jones:
“Rwy’n falch iawn bod yr ymgyrch hon wedi bod yn llwyddiant, a bod y T1C wedi dychwelyd gyda gwasanaeth llawn 7 diwrnod yr wythnos ar ffurf coets cyfforddus a hygyrch. Mae’n rhedeg o Aberystwyth i Gaerdydd heibio Llandysul gan gysylltu gyda gwasanaeth T1 Llambed yng Nghaerfyrddin.
“Roedd nifer o etholwyr wedi cysylltu â mi gan rannu eu pryderon yn dilyn adfer y gwasanaeth gan nad oedd y bws a roddwyd yn ei le yn ddiogel a’i fod yn brin o adnoddau pwysig fel toiled. Bum ar y bws fy hun ychydig o weithiau a’i ganfod yn anaddas ac yn anniogel ar gyfer siwrnai mor hir.
“Rwy’n falch bod y bws newydd hwn yn gyfforddus, yn ddiogel a bod yna gyfleusterau arni sy’n ddisgwyliedig gan deithwyr ar y llwybr pwysig hwn a bod hyd y siwrnai hefyd wedi ei chwtogi. Mae hefyd yn fwy hygyrch i deithwyr hŷn a’r rhai sy’n defnyddio Cardiau Teithio Consesiynol.
“Rwy’n annog pawb i wneud defnydd o’r gwasanaeth hwn.”