Elin Jones yn dathlu ailsefydlu’r ‘bws hanfodol’
Mae Elin Jones, Aelod Cynulliad Ceredigion, wedi bod yn trafod y manylion ar gyfer y bws uniongyrchol o Aberystwyth i Gaerdydd, a fydd yn cael ei ailsefydlu ar ôl ychydig o fisoedd heb wasanaeth.
Daeth y gwasanaeth blaenorol, y 701, i ben ychydig o fisoedd yn ôl, ac ers hynny mae Elin Jones wedi bod yn ymgyrchu dros ei ailsefydlu. Mae disgwyl yn awr iddo ddechrau ar y 5ed o Ragfyr, 2016, fel a ganlyn:
Gadael Aberystwyth am 7.40 y bore a chyrraedd Caerdydd am 12.15 y prynhawn.
Gadael Caerdydd am 16.40 a chyrraedd Aberystwyth am 21.24 y nos.
Dywedodd Elin Jones AC:
“Rwy’n falch iawn i ddweud bod y gwasanaeth hanfodol hwn rhwng Aberystwyth a Chaerdydd i’w ail-sefydlu, mae nifer fawr o etholwyr wedi gweld ei eisiau.
“Roedd y bws blaenorol yn wasanaeth masnachol heb gymhorthdal, ond fe fydd y bws newydd yn dod o dan ymbarél y gwasanaeth Traws Cymru Llywodraeth Cymru.
“Fe fydd y T1C, sef enw newydd y bws, yn ailgychwyn ar y 5ed o Ragfyr. Un gwasanaeth y dydd i Gaerdydd ac yn ôl fydd hi o Ddydd Llun i Ddydd Sadwrn, ac fe fydd y gwasanaeth am ddim i bensiynwyr a phobl sydd â Cherdyn Teithio Rhatach.
“Nid oes gwasanaeth bws ar ddydd Sul ar hyn o bryd, ond ymhen 6 mis fe fydd y Llywodraeth yn adolygu’r gwasanaeth er mwyn sicrhau ei fod yn rhedeg yn effeithiol, felly hoffwn annog pawb, bryd hynny, i gymryd rhan yn y broses o gasglu barn am y gwasanaeth a’r amserlen.”
Fe fydd mwy o wybodaeth ar gael cyn bo hir ar wefan TrawsCymru.