Dywedodd Ben Lake:
"Mae'r defnydd o arfau cemegol yn gwbl annerbyniol, ac mae defnydd cyfundrefn Assad o arfau cemegol yn erbyn dinasyddion dieuog y wlad yn gwbl resynus. Rhaid i unrhyw ymdrechion gan Lywodraeth y DG i atal erchyllterau or fath sicrhau bod yna siawns credadwy o ddod â heddwch a sefydlogrwydd i'r wlad. Rwy'n ofni fod yr ymosodiadau dros y penwythnos wedi methu yn hynny o beth, ac yn hytrach na lleddfu dioddefaint pobl Syria, mae perygl y bydd y sefyllfa yn gwaethygu yno dros y misoedd nesaf.
"Mae gwneud y penderfyniad i anfon lluoedd arfog dros y dŵr yn benderfyniad difrifol iawn, ac yn sgil hynny, mae confensiwn wedi amlygu dros y blynyddoedd diwethaf o ymgynghori gyda'r Senedd ar unrhyw weithredu milwrol ymosodol. Mae'n pery pryder i mi felly na lwyddwyd i lynu at y confensiwn hwn cyn i'r Deyrnas Gyfunol gymryd rhan yn yr ymosodiadau yn Syria dros y penwythnos.
"Y flaenoriaeth erbyn hyn yw atal y trais a'r camdrin sy'n digwydd yn Syria ac i leddfu ar ddioddefaint pobl ddieuog y wlad. Mae'r UDA wedi cynnal cyfres o ymosodiadau o'r awyr dros y blynyddoedd diwethaf a serch hynny mae Assad yn parhau i ddefnyddio arfau cemegol yn erbyn ei ddinasyddion. Gan bod strategaeth y gorllewin wedi methu mor belled, dwi ddim yn argyhoeddedig y byddai ymosodiadau pellach o'r awyr yn arwain at heddwch tymor hir yn Syria na chwaith yn atal y defnydd o arfau cemegol. Credaf bod angen ailgychwyn y broses o ddwyn pwysau gwleidyddol yn erbyn cyfundrefn Assad, yn ogystal â chosebidgaethau economaidd llym yn erbyn unigolion yn y gyfundrefn a'i gefnogwyr i atal anghyfiawnder pellach yn y wlad."