Datganiad ar y diweddaraf yn Syria

Plaid_LogoMaster_RGB.jpg

 

Mae Plaid Cymru yn condemnio'r hyn sy’n ymddangos fel ymosodiad cemegol yn nhref Douma yn Syria, sydd wedi arwain at farwolaeth o leiaf 70 o bobl mewn amgylchiadau dychrynllyd.  

Ond y gwirionedd amdani yw y bydd y mathau hyn o weithredoedd treisgar, sydd yn droseddau rhyfel, yn parhau nes i’r gymuned ryngwladol gyrraedd cytundeb priodol ar ddiddymu a dod â’r rhyfel cartref yno i ben.  

Yn dilyn yr ymosodiad cemegol yn Khan Younis llynedd, a gafodd ei briodoli i lywodraeth Syria gan y Cenhedloedd Unedig a’r OPCW (y sefydliad dros wahardd Arfau Cemegol), dywedodd Plaid Cymru ar y pryd fod “Plaid Cymru yn condemio pob ymosodiad o’r fath ar ddinasyddion yn ogystal ag ymosodiadau ar ddinasyddion trwy arfau confensiynol. Yr unig  ateb i leihau a gorffen y trais hwn yw i ddatblygu a gweithredu proses heddwch gynhwysfawr, sydd yn gofyn am gydweithrediad gwledydd fel yr Unol Daleithiau a Rwsia, a gwledydd eraill sydd wedi ymyrryd yn Syria.”

Mae hyn yn parhau i fod yn wir heddiw. Mae’n rhaid deall y bydd yr erchylltra yn parhau nes i’r ddau rym mwyaf sydd wedi ymyrryd yn y gwrthdaro gytuno i weithio gyda’i gilydd i ddod â’r trais i ben.  Gyda Rwsia yn cefnogi llywodraeth Assad, a’r Unol Daleithiau a’i chynghreiraid yn cefnogi nifer o rymoedd eraill yn yr ardal, mae natur aml-wynebog y rhyfel cartref wedi normaleiddio a does dim unrhyw obaith i un ochr gipio buddugoliaeth gyflawn. Mae hyn yn golygu bod angen setliad heddwch rhyngwladol wedi ei oruchwylio gan y Cenhedloedd Unedig.

Rydym yn awr yn disgwyl cynigion gan Lywodraeth y DG ar y math o rôl ddiplomataidd y gallant ymgymryd â hi yn yr argyfwng. Bydd ein Haelodau Seneddol yn edrych ar unrhyw gynnig adeiladol gan Lywodraeth y DG allai gyfrannu at sicrhau heddwch parhaol a chaniatáu gofod i bobl Syria gymodi. Os cynigir camau milwrol gan y DG, bydd yn rhaid cael dadl a phleidlais seneddol.

Mae Plaid Cymru hefyd yn galw am ymagwedd ehangach at y gwrthdaro er mwyn cynnwys cyfiawnder i Gwrdiaid Rojava ac yn galw am barchu eu hawliau hwythau wrth i unrhyw ateb ddatblygu.

Yn olaf, gyda chost dynol rhyfel mor amlwg yn ystod y dyddiau diwethaf, rydym yn parhau i ddatgan yn glir fod ffoaduriaid o Syria yn haeddu cefnogaeth dyngarol a chymorth y cenhedloedd hynny sydd yn elwa o fywydau heddychlon a diogel.

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.