Mae AS Ben Lake wedi addo ei gefnogaeth i ymgyrch Long Live the Local i helpu tafarndai a bragdai yng Ngheredigion i wella a ffynnu. Mae Ben Lake yn ymuno â dros 125,000 o bobl sydd wedi llofnodi'r ddeiseb hyd yn hyn, gan gynnwys 123 yng Ngheredigion yn unig.
Mae Ben Lake AS yn galw ar y Llywodraeth i ostwng Cyfraddau TAW a Busnes ar gyfer tafarndai ac am ostyngiad cyffredinol yn y Doll Cwrw. Mae pandemig COVID-19 wedi cael effaith ddinistriol ar fragwyr a thafarndai ledled y DU ac mae'n parhau i wneud hynny wrth i'r sector geisio cychwyn ei adferiad. Mae angen hwb ar frys ar y sector ac mae'r ffaith bod tafarn leol yn ychwanegu £ 100,000 i'w heconomi leol, yn creu swyddi ac yn gweithredu fel canolbwynt cymdeithasol, yn tanlinellu yr effaith y byddai buddsoddiad ar ffurf TAW is, Cyfraddau Busnes is a thoriad cyffredinol i’r doll cwrw yn ei gael i helpu adfer tafarndai a'u cymunedau. Byddai hefyd yn rhoi hwb i sector bragu gwych Prydain, stori o lwyddiant sydd wedi tyfu gan fragu dros 80% o'r cwrw rydyn ni'n ei yfed.
Mae bragu a thafarndai yng Ngheredigion yn cynnal 1446 o swyddi ac yn cyfrannu £31m i'r economi leol. Gyda £1 ym mhob £3 a werir yn nhafarndai'r DU yn mynd at y dyn treth, mae yfwyr a phobl sy'n mynd i dafarndai Prydain yn cael eu gordrethu ac mae hyn yn rhwystro adferiad ein cwsmeriaid selog a bragwyr Prydain.
Wrth sôn am yr ymgyrch, dywedodd AS Ben Lake:
“Mae tafarndai wrth galon cymunedau ledled Ceredigion, ond gyda thafarndai yn dwyn baich anghymesur o ganlyniad i’r pandemig dylai Llywodraeth y DU ystyried torri trethi annheg ar dafarndai am fod hynny yn rhwystro eu hadferiad. Rwy’n cefnogi ymgyrch Long Live the Local ac yn galw ar y Canghellor i ostwng TAW a Chyfraddau Busnes ar gyfer tafarndai a lleihau’r Doll Cwrw yn gyffredinol yng Nghyllideb eleni er mwyn gefnogi adfer tafarndai. ”
Dywedodd Emma McClarkin, Prif Weithredwr y British Beer and Pub Association:
“Mae 85% o dafarndai wedi’u lleoli mewn ardaloedd cymunedol a gwledig, gan ddod â swyddi i’r rhannau o’r DU sydd eu hangen fwyaf. Maent yn cyflogi dros 600,000 o bobl, gyda 43% ohonynt o dan 25. Byddai Torri Cyfraddau Busnes, TAW a gostyngiad cyffredinol mewn Toll Cwrw yn mynd yn bell i helpu tafarndai a bragwyr ledled Ceredigion sy'n ceisio adfer eu busnes. Rydym yn ddiolchgar iawn i Ben Lake am ei cefnogaeth i'r ymgyrch Long Live the Local, ac yn gobeithio bod y Llywodraeth yn gwrando ar ASau ledled y Senedd a'r miloedd o bobl ledled y wlad sy'n galw ar y Canghellor i ostwng TAW a Chyfraddau Busnes ar gyfer tafarndai a lleihau'r Doll Gwrw yn gyffredinol. ”
Dangos 1 ymateb