Pwysau cynyddol ar Lywodraeth y DU i gefnogi is-bostfestri trwy weithredoedd, nid geiriau

kutan-ural-yCxBGq7nuA8-unsplash.jpg

Mae ffocws newydd wedi’i roi ar yr angen i'r Llywodraeth gefnogi is-bostfeistri. Cyflwynwyd Cynnig  cynnar-yn-y-dydd ar 30 Tachwedd, gyda chefnogaeth Ben Lake AS, sy'n “annog y Llywodraeth i gadw at eu hymrwymiad i swyddfeydd post trwy barhau i sicrhau bod gwasanaethau'r Llywodraeth fel pasbortau, buddion y wladwriaeth a DVLA, ond nid yn gyfyngedig i’r rhain, yn parhau i fod ar gael trwy rwydwaith y swyddfa bost. "

Yn ystod y 15 mlynedd diwethaf, mae naill lywodraeth ar ôl y llall wedi tynnu gwasanaethau o'r rhwydwaith swyddfeydd post er mwyn torri costau. Mae hyn wedi creu problemau - i gwsmeriaid ac i is-bostfeistri, gan i hyn effeithio’n andwyol ar eu hincwm. Cydnabyddir pwysigrwydd swyddfeydd post yn eang - yn genedlaethol ac o fewn cymunedau lleol, yn enwedig i'r bobl fregus hynny sy'n dibynnu ar swyddfeydd post i ddarparu'r gwasanaethau Llywodraeth sy'n weddill.

Ar hyn o bryd, mae'r Llywodraeth yn bwriadu rhoi'r gorau i ddarparu cyfrif cerdyn Swyddfa'r Post (POca) ym mis Tachwedd 2021. Yn hytrach na dod â'r gwasanaeth hwn i ben, dylai'r Llywodraeth geisio gwella'r gwasanaeth i sicrhau bod pobl fregus sy'n dibynnu ar POca ac a allai ei chael hi'n anodd agor cyfrif banc ddim yn cael eu peryglu gan risgiau allgau ariannol.

Dywedodd Ben Lake AS:

“Rwy’n falch iawn o gefnogi’r EDM hwn ac yn annog cefnogaeth bellach i is-bostfeistri. Yn ôl arolwg diweddar gan Ffederasiwn Cenedlaethol yr is-bostfeistri (NFSP), mae swyddfeydd post yn gweithredu fel mecanwaith cymorth di-dâl i oddeutu 300,000 o bobl fregus ledled y DU.

Ychwanegodd: “Mae swyddfeydd post yn ganolbwynt i’r gymuned ac yn gwneud cymaint i gefnogi pobl - mae hyn wrth gwrs yn cynnwys gwasanaethau post, bancio a thalu biliau - ond maen nhw hefyd yn neud mwy i helpu cwsmeriaid fel atal cwsmeriaid rhag dioddef sgamiau a gweithgaredd twyllodrus, tywys cwsmeriaid bregus trwy drafodion ariannol, a chyfeirio cwsmeriaid at y Llywodraeth, y cyngor a gwasanaethau cyhoeddus eraill. ”

“Rwy’n galw felly ar y Llywodraeth i gydnabod y gefnogaeth y mae swyddfeydd post yn ei darparu i’w cymunedau lleol ac ymrwymo i sicrhau bod rhwydwaith y swyddfeydd post yn parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol y Llywodraeth.”

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.