Cefnogwch y gymuned hosteli drwy'r gaeaf medd Ben Lake AS

marcus-loke-WQJvWU_HZFo-unsplash.jpg

Mae Ben Lake AS wedi cefnogi cynnig seneddol yn gofyn i Lywodraeth y DU danategu mesurau iechyd gyda chefnogaeth economaidd a sefydlu pecynnau cymorth ar frys ar gyfer y sector hosteli. Mae'r cynnig yn gofyn i'r llywodraeth am gymorth i oroesi'r gaeaf yng nghanol pandemig COVID-19. 

Mae cannoedd o hosteli a thai bync ledled y DU wedi cael eu gorfodi i gau yn ystod y pandemig gan gael effaith drychinebus ar incwm a swyddi yn y sector yn enwedig mewn rhannau gwledig o'r DU, gan gynnwys yng ngorllewin Cymru. 

Mae YHA, sy’n rhedeg 24 hostel ieuenctid yng Nghymru, wedi dioddef cwymp o £30 miliwn (75%) mewn incwm ers mis Mawrth, y flwyddyn waethaf erioed yn hanes yr elusen ers ei sefydlu 90 mlynedd yn ôl. 

Er gwaethaf y gobeithion am frechlyn erbyn diwedd y flwyddyn, ni fydd llawer o hosteli a thai bync yn gweld adferiad ariannol yn ystod misoedd y gaeaf er mwyn eu cynnal tan y gwanwyn. 

Mae angen cefnogaeth nawr gan Lywodraeth y DU ar hosteli a thai bync i'w cynnal trwy'r gaeaf ac i sicrhau y bydd y llety unigryw yma ar gael i ddarparu llety rhad ar gyfer gwyliau awyr agored iach a theithiau preswyl ysgolion yn 2021. Er bod cefnogaeth ffyrlo a chefnogaeth arall y llywodraeth wedi cael croeso mae hosteli - yn seiliedig ar rannu ac ar gymunedau yn dod at ei gilydd - yn wynebu rhai bygythiadau penodol iawn. 

Mae’r Cynnig Cynnar-yn-y-dydd yn nodi bod ‘hosteli yn aml yn cael eu defnyddio gan bobl sy’n bwriadu cymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored ac y bydd sicrhau bod pobl yn dal i allu dod o hyd i wyliau awyr agored iach am brisiau fforddiadwy yn bwysig ar ôl Covid-19.’ 

Cred YHA y bydd hosteli yn chwarae rhan allweddol yn adferiad cymdeithas fel y gwnaeth ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd,  - gan helpu pobl i ailgysylltu â'i gilydd, yr awyr agored, natur, diwylliant a threftadaeth. 

Dywedodd Ben Lake AS: 


“Heb gefnogaeth ariannol pellach gan Lywodraeth y DU, efallai na fydd llawer o hosteli yn goroesi tan ddechrau’r tymor twristiaeth newydd y flwyddyn nesaf. 

“Mae'r rhain yn fusnesau sydd, dan amodau masnachu arferol, yn ariannol gadarn ac yn broffidiol. Er fy mod yn deall yn iawn y rhesymau iechyd cyhoeddus dros y cyfyngiadau gweithredu ar hostelau ac nid wyf yn gofyn iddynt gael eu heithrio ohonynt, rwyf yn galw ar Lywodraeth y DU i gydnabod yr effaith y mae'r cyfyngiadau hyn yn eu cael ar hosteli ac i gefnogaeth ariannol pellach ystyried hyn."

Esboniodd Anita Kerwin-Nye, Cyfarwyddwr Strategaeth ac Ymgysylltu’r YHA (Cymru a Lloegr): 

“Bydd cau unrhyw hostel yn amlwg yn cael effaith ddinistriol ar berchnogion ein hosteli a’u gweithwyr. Yr un mor bwysig serch hynny fydd yr effaith andwyol ar y cymunedau y mae’r hosteli yn rhan ohonynt ac ar y gymuned awyr agored ehangach yng Nghymru. ”

“Mae hosteli yn fudiad sy'n seiliedig ar rannu. Rhannu lleoedd, rhannu syniadau a rhannu llawenydd natur, yr awyr agored a threftadaeth. Mae angen teithio fforddiadwy nawr yn fwy nag erioed.” 

Hyd yn hyn mae Early Days Motion 1100 Support for Hostels, a gyflwynwyd ar 4 Tachwedd, wedi derbyn cefnogaeth gan 20 AS. 

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.