Mae Ben Lake AS wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU yn gofyn iddynt ystyried ehangu'r mesurau cymorth sydd ar gael i fusnesau wedi’u heffeithio gan Covid-19 fel eu bod yn cynnwys milfeddygon.
Hyd yn hyn nid yw meddygfeydd milfeddygol wedi’u cynnwys yng nghynlluniau cefnogaeth economaidd y Llywodraeth, er eu bod hwythau hefyd yn wynebu cyfnod o anhawster ariannol sylweddol ac yn parhau i ddarparu gofal a thriniaeth hanfodol i anifeiliaid wrth ddelio gyda phrinder staff a lleihaf sylweddol mewn incwm.
Mewn llythyr a anfonwyd at Ganghellor y DU, galwodd Mr Lake am:
- ymestyn y rhyddhad ardrethi busnes i feddygfeydd milfeddygol
- hyblygrwydd pellach yn y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws, gan ganiatáu i feddygfeydd milfeddygol gadw digon o staff i allu cynnal gwasnaethau gofal brys; ac
- addasiadau i'r Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig.
Dywedodd Ben Lake AS:
“Er fy mod, wrth gwrs, yn croesawu’r achubiaeth economaidd a gynigir i nifer o fusnesau trwy becyn cymorth y Llywodraeth, rwy’n pryderu nad yw’r mesurau hyn yn ymestyn i’r proffesiwn milfeddygol ar hyn o bryd. Mae meddygfeydd milfeddygol yn eithriadol o bwysig yn ein cymunedau gwledig - maent yn darparu gwasanaeth hanfodol i'n diwydiant amaethyddol, yn ogystal â chadw ein hanifeiliaid anwes yn iach.
“Yn anffodus, efallai na fydd gan lawer o fusnesau milfeddygol ddewis ond cau eu drysau am byth os na chynhigir yr un gefnogaeth iddynt ar hyn sydd ar gael i fusnesau eraill. Oherwydd hyn, rwy'n galw ar Lywodraeth y DU i gynnwys meddygfeydd milfeddygol yn eu mesurau cymorth, ac i gydnabod y proffesiwn fel gwasanaeth allweddol. Mae milfeddygon yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i'n cymunedau cefn gwlad, ac maent yn haeddu'r un sicrwydd ag yr addawyd i fusnesau eraill yn yr amseroedd ansicr sydd o'u blaenau."