Mapio Band Eang Cyflym Ceredigion
Dal yn aros i gael eich cysylltu? Ry'n ni eisiau clywed gennych!
Mae Elin Jones a Ben Lake yn gofyn i etholwyr sy'n byw mewn ardaloedd lle mae'r isadeiledd a'r gwifrau ffibr wedi cael eu gosod yn eu lle, ond lle nad yw'r cysylltiad terfynol wedi'i wneud i'r cartref, i gysylltu â nhw ar ebost. Bydd yr ardaloedd hynny sy'n dal i aros am eu cysylltiad terfynol yn cael eu cynnwys ar fap o leoliadau a chodau post ac yn cael eu cyflwyno i Openreach a Llywodraeth Cymru dros yr wythnosau nesaf.
Anfonwch eich manylion [email protected] neu [email protected]
Mae cynllun Superfast Cymru, a roddodd gytundeb i Openreach i alluogi Cymru i dderbyn Band Eang Cyflym wedi bod yn eithriadol o araf yng Ngheredigion. Arweiniodd hyn i Elin Jones AC a Ben Lake AS, ers iddo gael ei ethol, i ddwyn cannoedd o achosion i sylw Llywodraeth Cymru, ac i alw am waith brys er mwyn sicrhau bod darpariaeth band eang Ceredigion yn gyfartal â rhannau eraill o Gymru. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Rhagfyr 2017, ac yn sgil hynny mae yna ansicrwydd pryd y caiff llawer o gartrefi eu cysylltu.
Mae’r sefyllfa bresennol yn debygol o effeithio ar lawer o bobl a gafodd wybod eu bod o fewn terfynau i gael band eang. Erbyn hyn maent mewn peryg o wynebu oedi pellach gan fod y cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru ac Openreach wedi dod i ben, ac Openreach wedi cadarnhau na fydd unrhyw waith pellach yn cael ei gwblhau heb daliad.
Dywedodd Elin Jones:
“Dyma yn sicr yw un o’r pynciau sy’n cael ei drafod fwyaf yn fy nghymorthfeydd ac yn fy mlwch ebost – mae’n effeithio ar gymunedau, addysg a busnesau. Mae’r newyddion hwn bod cynllun Superfast Cymru yn cefnu ar gymaint o ardaloedd ar draws Ceredigion yn gwbwl warthus.
"Profwyd bod Ceredigion yn flaenoriaeth isel i Lywodraeth Cymru ac Openreach. Mae’n rhaid ei gwneud yn flaenoriaeth. Yn syml, nid yw’n dderbyniol bod ymron i 30% o gartrefi yng Ngheredigion yn cael eu gadael heb fand eang cyflym. Mae Llywodraeth Cymru ar fin cyhoeddi rhaglen newydd ar gyfer uwchraddio cartrefi i fand eang cyflym. Oddi mewn i’r rhaglen newydd hon mae’n rhaid blaenoriaethu y cartrefi mwyaf anodd eu cyrraedd a pheidio â chaniatau i gontractiwr bigo ar gartrefi haws eu cyrraedd.
"Byddaf yn gofyn i’r Gweinidog sy’n gyfrifol am y cynllun i fynychu cyfarfod cyhoeddus yng Ngheredigion i drafod sut y gellir gweithredu ymhellach a’r modd y gall Ceredigion ddal i fyny â gweddill Cymru a’r unfed ganrif ar hugain."
Dywedodd Ben Lake:
“Mae’r ymdriniaeth â’r cynllun hwn wedi ei felltithio â difaterwch i’n cymunedau gwledig, a methiant i ganolbwyntio â’n hardaloedd mwyaf anodd eu cyrraedd. Fe ddylid fod wedi rhoi mwy o flaenoriaeth i gysylltu yr ardaloedd hyn o’r wlad lle nad yw cyflwyno band eang cyflym yn ymarferol economaidd - ardaloedd gwledig megis Ceredigion.
"Heb os, mae’n fwy o sialens i gyflwyno band eang cyflym mewn ardaoledd mwy gwledig, ond pwrpas cynllun Superfast Cymru oedd i ddarparu y cyllid angenrheidiol i gwrdd â’r ffaith na fyddai ardaloedd o’r fath yn elwa o gyflwyniad masnachol.
"Mae’n anhygoel nad yw y ffigwr o £6.8 miliwn a wariwyd yng Ngheredigion ers cyflwyno Superfast Cymru yn 2013 hyd yn oed yn hanner y gwariant a brofwyd mewn ardaloedd gwledig eraill megis Gwynedd, Penfro, Conwy a Sir Gaerfyrddin.
"Rwy’n siomedig bod y cynllun wedi methu â chyflawni ar ei botensial, ac rwy’n bryderus bod llawer o bobl a gafodd addewid y byddent yn derbyn band eang cyflym erbyn diwedd mis Rhagfyr yn gorfod aros hyd yn oed yn hwy yn awr. Mae ansicrwydd o’r fath ynglŷn â gwireddu yr addewidion hyn yn hollol annheg ar boblogaeth Ceredigion."
Dangos 1 ymateb