Storm Darragh - gwersi i'w dysgu

Diolch i bawb ohonoch fu'n gofalu am eich gilydd, a'ch cymdogion wrth i ni oroesi effeithiau Storm Darragh yn ddiweddar. Roedd yn wych clywed straeon am fusnesau lleol ac unigolion fu'n cynnig llefydd i bobl gynhesu a chael diod poeth, a bu i sawl bwyty ymestyn yr amser agor er mwyn gallu darparu bwyd cynnes i gymaint a phosib o bobl.

Unwaith yn rhagor bydden ni wedi bod ar goll heb ein ffermwyr a'n gweithwyr cefn gwlad oedd yn rhoi o'u hamser a'u peiriannau i agor ffyrdd, a helpu y cyngor i gynnal y sir mewn adeg anodd i nifer. Diolch yn fawr hefyd i'r holl beiriannwyr trydanol fu'n gweithio oriau helaeth mewn amgylchiadau hynod o heriol a pheryglus i adfer ein darpariaeth trydan gynted â phosib.

Erbyn pumed diwrnod yr argyfwng, roedd dal dros 50 o bentrefi Ceredigion heb drydan, a mi fuais i a Ben Lake AS yn gweithio'n ddiwyd ar y cyfryngau cymdeithasol i gydlynu rhestr, a sicrhau fod y cwmnïoedd trydan yn ymwybodol o raddfa'r broblem a'r llefydd. Bu'n cynghorwyr sir hefyd yn gweithio yn eu cymunedau i sichrau fod y bobol mwyaf bregus yn derbyn y cymorth roedd angen arnynt.

Er i ni oroesi Storm Darragh, mae yna nifer o wersi sydd angen i ni ddysgu o'r sefyllfa. Mae'n amlwg fod angen mwy o fuddsoddiad yn yr isadeiledd i’w wneud yn fwy cydnerth i wynebu stormydd y dyfodol. Ond falle taw'r wers bwysicaf yw pan mae na ddifrod mor fawr â hyn yn digwydd, fod angen i ddarparwyr trydan ddod ag adnoddau sylweddol mewn yn gyflymach i ardaloedd gwledig er mwyn ceisio trwsio ynghynt.


Dangos 1 ymateb

  • Branwen Davies
    published this page in Ymgyrchoedd 2024-12-17 17:32:24 +0000

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.