Steve Davies: Aberystwyth Penparcau

11.png

Pam pleidleisio dros Steve?

"Rwyf wedi ymrwymo i helpu pobl yn fy ward ac mae wedi bod yn anrhydedd ac yn bleser cynrychioli’r ardal hon fel Cynghorydd Sir a Thref dros y 13 mlynedd diwethaf.

Wrth wynebu Cofid yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, rydyn ni gyd wedi sylweddoli pa mor bwysig yw’r ardal leol, ein cymuned a’i chryfder. Gyda phwyslais o’r newydd ar helpu ein gilydd, siopa’n lleol a gwerthfawrogi ein hardal leol, rydw i eisiau cynnal a datblygu’r momentwm hwn gyda’ch help chi er mwyn sicrhau'r adnoddau a’r gwasanaethau gorau i Benparcau.

Dwi'n awyddus i barhau gyda’r gwaith pwysig o fod yn eiriolwr gweithgar ac yn lais cryf, gonest a brwdfrydig dros drigolion ward Llandyfriog am y 5 mlynedd i ddod ac felly gofynnaf am eich cefnogaeth ar y 5ed o Fai."

 

Manylion cyswllt
01970 626087
07791 875224

Dangos 1 ymateb

  • Carys Lloyd
    published this page in Ymgeiswyr 2022-01-26 18:39:10 +0000

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.