8 awgrym cyflym a syml i'ch helpu i arbed arian, amser ac egni, sy’n derbyn cefnogaeth Ben Lake AS
I lawer o aelwydydd, mae tywydd gaeafol yn aml yn sbarduno dadl ynglŷn â pha dymheredd i osod y thermostat neu faint o haenau i'w gwisgo. Ond i rai, gall cost gwresogi cartref fod yn bryder, yn enwedig gyda mwy o bobl yn treulio amser gartref yn ystod y pandemig.
Er mwyn helpu teuluoedd yng Ngheredigion i reoli eu defnydd o ynni cartref yn well ac arbed arian ar filiau, mae Ben Lake AS, National Energy Action (NEA) a Smart Energy GB wedi ymuno i goladu rhestr o bethau syml y gallwn ni i gyd eu gwneud i wneud gwahaniaeth.
Efallai mai ychydig yw’r newidiadau, ond gallai'r camau cyflym a hawdd yma arbed dros £80 y flwyddyn i aelwydydd.
I filiynau o aelwydydd ledled Cymru, mae gosod mesurydd deallus wedi caniatáu iddynt gadw golwg ar eu defnydd o ynni a gweld sut y gall y newidiadau bach a wnânt ostwng biliau ynni.
Gall y cyfyngiadau’r cyfnod clo effeithio ar bryd y gellir gosod eich mesurydd deallus, ond mae cysylltu â'ch cyflenwr ynni i ddarganfod sut i gael un yn gam hawdd tuag at reoli ynni yn well. Yn y cyfamser, dyma 8 ffordd syml y gallech chi arbed ynni ac arian, y gaeaf hwn yn ôl Smart Energy GB a NEA.
8 awgrym ar sut i arbed ynni
- Gallwch arbed tua £30 y flwyddyn wrth gofio troi’ch offer i ffwrdd yn hytrach na’u gadael yn y modd segur
- Dim ond berwi dŵr sydd ei angen arnoch yn y tegell. Gall hyn arbed £6 y flwyddyn.
- Peidiwch â gadael eich ffôn symudol i drydanu drwy’r nos - mae ychydig oriau yn ddigon i’r mwyafrif.
- Gallai defnyddio padell i olchi llestri yn hytrach na gadael y tap i redeg arbed £25 y flwyddyn.
- Gallai defnyddio’r gawod am funud yn llai'r dydd dynnu hyd at £7 y person oddi are eich bil ynni blynyddol
- Rhowch glawr ar y sosbenni - bydd y dŵr yn berwi ynghynt ac yn defnyddio llai o egni.
- Diffoddwch y golau pan nad oes eu hangen. Gallai hyn arbed £14 y flwyddyn i chi.
- Defnyddiwch y ficro-don os ydych am gynhesu ychydig bach o fwyd yn hytrach na’r hob nwy neu drydan.
Dywedodd Ben Lake AS:
“Mae’n arwydd cadarnhaol bod cymaint o bobl yng Ngheredigion yn helpu Cymru i uwchraddio ei hen system ynni trwy gael mesurydd deallus wedi’i osod gan reoli eu defnydd o ynni gartref yn fwy effeithlon yn y broses.
"Gyda dyfodiad tywydd oerach, mae'n bwysicach nag erioed bod help a chyngor ar gael ar sut i gadw ein cartrefi yn gynnes i'r rhai sydd ei angen. Mae defnyddio'r awgrymiadau cyflym a syml yma yn ffordd hawdd o leihau biliau a lleddfu rhywfaint o'r pwysau ariannol gall aelwydydd fod yn wynebu yn ystod y cyfnod digynsail hwn. "
Dywedodd Robert Cheesewright, Cyfarwyddwr Cyfathrebu Smart Energy GB:
“Yn ystod y cyfnod anodd yma, rydyn ni’n gwybod y gallai pobl fod yn poeni am eu biliau ynni ond mae hefyd yn bwysig eich bod yn defnyddio’r egni sydd ei angen arnoch i gadw’n gynnes, yn ddiogel ac yn iach gartref.
“Dyma pam rydyn ni wedi gweithio gyda National Energy Action i ddarparu'r awgrymiadau hyn i helpu i reoli'r defnydd o ynni yn ystod cyfnod pan mae defnydd cynyddol yn anochel a’n bod yn gwybod y gallai pobl fod yn ei chael hi'n anodd.”
I ofyn am fesurydd deallus, cysylltwch â'ch cyflenwr ynni.
Os ydych chi'n cael trafferth talu'ch biliau gallwch gysylltu â'ch cyflenwr ynni i ddarganfod pa gymorth y gallent ei gynnig i chi. Gallwch hefyd ymweld â Cyngor ar Bopeth yn Citizensadvice.org.uk neu eu ffonio ar 0808 223 1133 i gael mwy o help a gwybodaeth.
Dangos 1 ymateb