Beca Lyne-Perkis yn creu awgrymiadau cegin craff gydag aelodau Merched y Wawr ardal Aberystwyth

SmartEnergyAber_km_041.jpg

Ni wastraffodd aelodau lwcus Merched y Wawr o ardal Aberystwyth unrhyw ynni heddiw wrth lowcio teisennau cri sawrus arbennig a goginiwyd gan y seren Bake-off Beca Lyne-Perkis, gyda chymorth mesurydd clyfar, mewn arddangosiad o goginio sy'n defnyddio ynni'n effeithlon.

Yn ddiweddar mae Beca wedi bod wrthi'n ymchwilio i ddulliau arbed ynni ac arian yn y gegin gyda chymorth mesuryddion clyfar. Daw mesuryddion clyfar gyda sgrîn ynni cartref gyfleus sy'n dangos i chi yn union faint o ynni rydych yn ei ddefnyddio mewn punnoedd a cheiniogau.

I helpu aelodau Merched y Wawr i aros yn graff ac yn effeithlon gydag ynni, ymunwyd â Beca gan Ben Lake AS i goginio ei rysáit arbennig ar gyfer Teisennau Cri Cennin, Ham a Chaws sawrus sy'n costio dim ond pedair ceiniog yr un mewn ynni i'w coginio. Yn ogystal â phobl swp o deisennau i aelodau Merched y Wawr eu mwynhau, roedd Beca a Ben wrth law hefyd i rannu eu hawgrymiadau ar gyfer coginio craff, gan gynnwys sut i gyffeithio bwyd a sut i ddefnyddio mesurydd clyfar i helpu gwneud ynni'n weladwy ac arbed ynni.

Meddai Beca, sy'n adnabyddus ar draws y wlad am ei choginio a ryseitiau cartref danteithiol sy'n cadw llygad ar y gyllideb:

“Ces i fy nysgu i goginio gan fy mam ac fy neiniau ac rwy'n hoffi meddwl fy mod yn eithaf da wrth reoli fy nghyllideb fy hun, yn enwedig yn y gegin. Rwyf wedi dysgu sut i ddefnyddio cynnyrch tymhorol ac edrych yn yr oergell neu'r cwpwrdd i greu rhywbeth blasus fel nad oes dim byd yn cael ei wastraffu.

“Dyma rywbeth yr wyf yn awyddus iawn i'w basio ymlaen at fy merched. Mae mesurydd clyfar yn gwneud yr ynni a ddefnyddiwch wrth goginio'n fwy gweladwy ac felly mae'n haws gweld yn union faint o ynni rydych yn ei ddefnyddio mewn punnoedd a cheiniogau. A gorau oll, gallwch ei gael am ddim gan eich cyflenwr ynni."

Meddai Tegwen Morris, Cyfarwyddwraig Cenedlaethol Merched y Wawr:

"Bu i ni i gyd fwynhau'r digwyddiad gyda Beca a Ben yn fawr, yn benodol mae wedi bod yn hynod ddiddorol i gael ein hatgoffa am faint o ynni rydym yn ei wastraffu heb feddwl amdano hyd yn oed a sut y gall technoleg newydd fel mesuryddion clyfar ein cefnogi i fod yn fwy ymwybodol o faint rydym yn ei wastraffu."

Meddai Ben Lake AS:

“Rwy'n hyderus y bydd mesuryddion clyfar yn rhoi llawer mwy o reolaeth i ni i gyd ar yr hyn a wariwn ar nwy a thrydan, a byddant yn dod â biliau wedi'u hamcangyfrif i ben o'r diwedd.

"Roeddwn wrth fy modd â gweld o lygad y ffynnon sut bydd fy etholwyr yn elwa a byddwn yn annog pawb i ffonio eu cyflenwr ynni heddiw a gofyn am apwyntiad i gael eu gosodiad mesurydd clyfar."

Meddai Fflur Lawton, Pennaeth Polisi a Chyfathrebu Cymru Ynni Clyfar GB:

 “Pŵer yw gwybodaeth wrth arbed ynni, yn enwedig yn y gegin lle gall newidiadau bach, fel defnyddio'r microdon yn lle'r ffwrn i bobi tatysen, greu arbedion mawr. Mae mesuryddion clyfar yn darparu'r gweladwyedd y mae ei angen arnom i wneud y newidiadau hyn a mynnu rheolaeth ar ein nwy a thrydan.”

Uwchraddiwch i fesurydd clyfar am ddim gan eich cyflenwr ynni.

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.