Cefndir
- Yn byw yn lleol ym Moreia, yn wreiddiol o Bow Street.
- Addysgwyd yn Ysgol Penglais
- Yn dod o deulu Saesneg eu hiaith gyntaf ac yn gallu deall Cymraeg
- Yn hoff iawn o feicio, hwylio, a chadwraeth
- Gwybodaeth dda o Dechnoleg ac wedi gweithio ym maes manwerthu electronig ers degawdau
- Perchennog busnes gyda thri o blant yn eu harddegau
Pam pleidleisio dros Simon?
"Byddai’n anrhydedd cael eich cynrychioli ar y Cyngor Sir. Rwyf wedi byw yng Ngheredigion gydol fy oes a bu’n ddyhead dwfn gennyf erioed i allu ymhél a materion y dydd a chyfrannu at eu gwella. Fel cynghorydd, byddwn yn chwilio am syniadau a phrosiectau newydd, yn cwblhau a chyflawni unrhyw faterion a phrosiectau cyfredol yn ogystal â dathlu’r hyn a gyflawnwyd o fewn y ward. Yn hytrach na dilyn y dorf byddwn yn cynnig syniadau ac agwedd wahanol wrth i mi eich cynrychioli. Rwy’n awyddus iawn i wella cynrychiolaeth yn y cyngor drwy gefnogi ac annog lleisiau o bob cefndir. Gan hyderu y gwnewch fy nghefnogi fel y gallaf innau eich cefnogi chi yn yr un modd."
Blaenoriaethau Simon
- Iechyd a lles: byddwn yn ceisio sicrhau bod y llwybr beicio a’r llwybrau cerdded sydd eisoes ar gael yn yr ardal yn cael eu cynnal a'u cadw fel eu bod yn ddiogel; byddwn hefyd yn chwilio am syniadau i greu mwy o fannau hamdden.
- Busnes: rwy’n gefnogwr brwd o fusnesau a byddwn eisiau ymwneud â nhw a’u helpu, lle bo modd, yn y cyfnodau anodd hyn.
- Cysylltu: chwilio am ffyrdd i'n cysylltu â chyfleusterau sydd wrth law yn enwedig ar gyfer pobl fregus a'r henoed.
- Diogelwch: chwilio am ddulliau pellach o wella diogelwch cerddwyr ar ffyrdd prysur yr A487 a’r A4120.
- Amgylchedd: ystyried dulliau gwell o ofalu am yr amgylchedd boed yn nentydd, afonydd neu sbwriel yn gyffredinol.
- Cynwysoldeb: annog a chefnogi unrhyw un sydd eisiau ymwneud â materion y cyngor i gael eu clywed a’u cynrychioli gyda’r nod o brocio’r gynrychiolaeth bresennol ar y cyngor.
Manylion cyswllt |
[email protected] |
07947 112911 |
www.twitter.com/sillanfarian |
Dangos 1 ymateb