Sicrhau dyfodol Llambed

Ganol mis Tachwedd, cyhoeddodd Prifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant ei fod yn ystyried dod ag addysg israddedig i ben ar gampws Llambed, ar ol dros 200 o flynyddoedd.

Mae'r campws yma yn hynod o bwysig i'r dref, yn ogystal ag ar gyfer dysgu myfyrwyr. Mae'r neuaddau preswyl yma ar y campws, y ganolfan celf, adeilad hardd y cwad a'r llyfrgell hefyd.

Mae raid i ni'n drio perswardio'r Brifysgol i ailystyried os oes dyfodol i addysg israddedig yma yn Llambed, ac os oes yna unrhyw ffordd gellir ailadeiladu'r ddarpariaeth israddedig cynigir ar y safle yma.

Ac os na, yna mae gan y Brifysgol gyfrifoldeb i'r dref i gwrdd gyda'r gymuned ac i drafod dyfodol y campws bwysig yma. Mae llwyddiant y dref a'r Brifysgol wedi dibynnu ar eu gilydd ers blynyddoedd. Mae dyfodol y dref yma wedi pwyso'n gryf ar y Brifysgol, ac mae'n parhau i bwyso arni.

Mae angen i'r Brifysgol gael trafodaeth positif, clir a phwysig am ddyfodol y campws yma, gyda'r dref a'r ardal ehangach fel ein bod i gyd yn gwybod fod sicrwydd swyddi ac addysg yma i Lambed.


Dangos 1 ymateb

  • Branwen Davies
    published this page in Ymgyrchoedd 2024-11-30 23:01:18 +0000

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.