AS yn cefnogi galwadau i ddarparwyr rhwydwaith rannu adnoddau er mwyn darparu gwell signal ffôn mewn ardaloedd gwledig

erik-mclean-sbdo0TkmhJw-unsplash.jpg

Mae Ben Lake AS yn un o grŵp o 78 ASau trawsbleidiol sy’n cynrychioli etholaethau gwledig sy’n annog y Llywodraeth i gefnogi cynnig gan y diwydiant ffonau symudol i greu ‘Rhwydwaith Rhannu Gwledig’ ar gyfer signal ffonau symudol i ardaloedd sy’n anodd eu cyrraedd.

Ysgrifennodd yr aelodau i Jeremy Wright, Ysgrifennydd Gwladol Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon gan ofyn iddo gefnogi y fenter a fyddai’n gwella’n sylweddol signal ffonau symudol ac yn creu mwy o gyfleoedd economaidd, addysgiadol a hamdden mewn ardaloedd gwledig, lle nad oes, mewn rhai achosion, signal ffonau symudol o gwbl.

Mae’r pedwar Gweithredwr Rhwydwaith Ffonau Symudol (MNOs) wedi cyflwyno cynnig ‘Rhwydwaith Rhannu Gwledig’ ar ôl i’r ASau alw ar yr Ysgrifennydd Gwladol i osod trawsrwydweithio gorfodol rhwng darparwyr os na all y diwydiant gyflwyno ei ddatrysiad ei hun.

Maent yn dweud yn eu llythyr “Er i ni ysgrifennu’n flaenorol atoch yn cefnogi trawsrwydweithio, rydym yn gweld cynnig y diwydiant am Rwydwaith Rhannu Gwledig yn ddull effeithiol arall a allai ehangu signal ffonau symudol a chredwn y dylai gael ei osod yn lle cynigion signal ffonau symudol Ofcom gan, yn rhannol, fod ganddo gefnogaeth y pedwar MNOs.  Hefyd rydym o’r farn bod y £620m sydd ei angen oddi wrth y Llywodraeth i adeiladur’r mastiau hyn yn rhoi gwell gwerth am arian i’r trethdalwr, wrth i chi gymryd i ystyriaeth y gostyngiad  o £800m roedd Ofcom wedi  ystyried ei gynnig i ddau weithredwr yn unig yn yr arwerthiant nesaf ac y byddent yn lle hynny yn annog y Llywodraeth I fuddsoddi y gostyngiad hynny drwy wella signal ffonau symudol.”

Dywedodd Ben Lake:

“Fe fydd y rhai â diffyg signal ffonau symudol mewn rhai o ardaloedd mwyaf gwledig Ceredigion yn gweld cynnydd gweithredol yn signal ffonau symudol  a hynny i etholwyr yn eu gwaith ac yn eu hamdden.

“Mae’r cysylltedd digidol annigonol presennol wedi cael effaith fawr ar dwf yr economi leol a chenedlaethol, ac mae angen unioni’r sefyllfa cyn gynted â phosib.  Rwy’n croesawu’r cynigion newydd hyn gan y byddant yn darparu datrysiad gwir angen mewn ffordd effeithlon a fydd ag effaith amgylcheddol well na’r cynigion presennol.”

Mae’r ASau hefyd yn cefnogi galwad y diwydiant i adolygu yr hawliau datblygu a ganiateir i alluogi mastiau uwch, yn gyfwerth mewn polisi â band eang sefydlog megis rhyddhad ardrethi busnes  i gydfynd â’r rhai newydd am rwydweithiau ffeibr sefydlog a hefyd gwell mynediad i diroedd a safleoedd  sector gyhoeddus.

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.