Tra’n cyflwyno eu Cynllun Cronfa Rhannu Ffyniant i Gymru mae Ben Lake AS a Rhun ap Iorwerth AC yn hawlio “dim ceiniog yn llai.”
Er yr addewid gan Lywodraeth Prydain am ymgynghoriad ar gynllun a gweithredu’r gronfa cyn diwedd 2018 rydym yn dal i ddisgwyl ar i Lywodraeth Prydain gyhoeddi manylion am y system newydd ar gyfer dosbarthu cyllid wedi Brexit ledled y DG.
Rhwng 2014 a 2020, bydd Cymru wedi derbyn dros £2 biliwn gan yr Undeb Ewropeaidd trwy Gronfeydd Strwythurol Ewrop. Bwriad y cronfeydd hyn yw lleihau anghydraddoldeb rhwng rhanbarthau trwy helpu i gefnogi pobl i mewn i waith a hyfforddiant, cyflogaeth ieuenctid, ymchwil ac arloesedd, cysylltedd a datblygu trefol.
Yn ystod refferendwm 2016 addawodd ymgyrch y Bleidlais Adael na fyddai Cymru “yn colli yr un geiniog” pe baem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, gan hawlio, yn hytrach, y byddem “ar ein hennill.” Fodd bynnag, nid yw Llywodraeth Prydain wedi cadarnhau a fydd y lefel bresennol o gyllid yn cael ei gynnal yn y tymor hir pe baem yn gadael yr UE.
Yn niffyg unrhyw gynigion gan Lywodraeth Prydain ar gynllun a gweithredu Cronfa Rhannu Ffyniant y DG comisiynodd Plaid Cymru adroddiad i ymchwilio i’n dewis o fodel cyllido. Bwriad yr adroddiad hwn yw gweithredu fel ein hateb swyddogol ar yr Ymgynghoriad ar Gronfa Rhannu Ffyniant y DG pan gaiff ei gyhoeddi yn derfynol.
Cynhelir y lansiad swyddogol yng Nghynhadledd Wanwyn Plaid Cymru yng Nghanolfan Pontio, Bangor ar ddydd Gwener, 22 Mawrth am 11.00.
Dyma brif ofynion Cynllun Cronfa Rhannu Ffyniant Plaid Cymru:
-
Dim ceiniog yn llai
- Addawodd y Bleidlais Adael na fyddai Cymru yn colli yr un geiniog pe baem yn gadael y DU
-
Wedi ei reoli yng Nghymru
- Penderfyniadau ar y modd y caiff yr arian ei wario yng Nghymru yn cael eu gwneud yng Nghymru
-
Ei rannu yn ôl yr angen nid o ran poblogaeth
- Dylai dosbarthiad y gronfa fod o’r tu allan i Fformiwla Barnett
-
Cyflawni dros Gymru
- Dylid monitro cynnydd i sicrhau bod cronfeydd yn cyflawni dros Gymru
Gan ymateb i hyn, dywedodd Ben Lake AS, Llefarydd Plaid Cymru San Steffan ar Faterion Cymreig:
“Addawodd yr Ymgyrch dros Adael na fyddai Cymru yn colli yr un geiniog pe baem yn pleidleisio dros adael yr UE – mae Plaid Cymru yn eu dal i gyfrif. Mae Cymru ar hyn o bryd yn derbyn £245 miliwn y flwyddyn yn fwy gan yr Undeb Ewropeaidd nac y mae’n dalu i mewn, sy’n adlewyrchu tan ariannu difrifol gan lywodraeth Prydain.
“Mae egwyddor ailddosbarthu rhanbarthol wedi ei osod yng nghyfansoddiad yr UE, tra bod obsesiwn gan Lundain yng nghyfansoddiad y DG. Mae anghydraddoldeb pennaf unrhyw Aelod o Wladwriaeth yr UE rhwng Llundain a Chymru – byddai gadael yr UE yn gwneud hyn yn waeth.
“Er gwaethaf addewidion gwag Llywodraeth Prydain ar Gronfa Rhannu Ffyniant, nid ydym wedi gweld unrhyw fanylion na gwybodaeth ar statws yr ymgynghoriad. Gydag absenoldeb cynigion gan y y Llywodraeth Brydeinig, ein bwriad yw sicrhau y bydd ein cymunedau yn parhau i dderbyn cronfeydd holl bwysig, er gwaethaf ein safle yn Ewrop.
“Fe wnawn yn glir i Theresa May na fydd Cymru yn derbyn ceiniog yn llai o dan y Gronfa Rhannu Ffyniant sydd ar gael i ni ar hyn o bryd gan yr Undeb Ewropeaidd.”
Ychwanegodd Rhun ap Iorwerth AC, Llefarydd Plaid Cymru ac Economi a Chyllid yn y Senedd:
“Mae’r diffyg llwyr mewn gwybodaeth, a dim blaengynllunio ar y ffrwd gyllido hanfodol hon o gyllid yn codi dychryn.
“Bellach dyw tincran o amgylch yr ymylon a chytuno ar gyflog isel ac economi sgil isel yng Nghymru ddim yn ateb – mae angen cynllunio cywir a chynlluniau trawsnewidiol mawr, uchelgeisiol ei hisadeileddd.
“Tra bod ffurf y gronfa hon yn hanfodol er mwyn i ni i gadw y Bleidlais Adael i gyfrif am eu haddewidion a dechrau lleihau anghydraddoldeb rhwng rhanbarthau ar draws y DG, dylai fod yn un rhan fechan o’r model cynllunio a ragwelwn ar gyfer Cymru Newydd y dyfodol.
“Parhau yn yr UE yw’r senario orau i Gymru, ond fel gwrthblaid gyfrifol, rydym yn paratoi ar gyfer pob posibiliad.”