Cynghorwyr Ceredigion yn siomedig tu hwnt gyda’r cyhoeddiad cyllid
Ynghynt yr wythnos yma, cafodd Cyngor Sir Ceredigion wybod gan Lywodraeth Llafur Cymru beth fydd ei setliad ariannol am y flwyddyn 2024-25. Dim ond 2.6% yw’r setliad a gyhoeddwyd sydd dipyn yn is na chwyddiant, ac sy’n lawer llai na’r ffigwr o 3.1% a gyhoeddwyd gan Rebecca Evans, Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, fel isafswm. Derbyniodd Cyngor Casnewydd 4.7% a Chyngor Caerdydd 4.1%.
Mae’r setliad yn peri gofid i gynghorwyr a swyddogion y Cyngor Sir wrth ddychmygu'r toriadau anorfod y bydd rhaid eu gwneud o fewn y gyllideb os oes cyn lleied o gynnydd yn y setliad. Unwaith eto, mae heriau byw mewn ardaloedd gwledig yn cael eu hanwybyddu gan Lywodraeth Lafur Bae Caerdydd ac mae trigolion y de-ddwyrain yn cael eu blaenoriaethu.
Siom arall yng nghyhoeddiad y setliad yw’r swm a roddwyd i ddau o brif gyflogwyr y Sir, y Llyfrgell Genedlaethol a'r Cyngor Llyfrau, ill dau yn colli 10% o'u cyllid wrth y Llywodraeth.
Bydd rhaid cynyddu trethi busnes hefyd, sydd yn mynd i gael effaith drom ar fusnesau Ceredigion - yn enwedig rhai twristaidd, tymhorol eu naws. Mae pob un o’r rhain yn effeithio'n fawr ar ein Sir, a hynny cyn ystyried mor isel yw'r setliad.
Dywedodd Gareth Davies, Aelod Cabinet ar gyfer Gwasanaethau Cyllid a Chaffael Cyngor Sir Ceredigion,
"Rwy'n ofni bod yna storm berffaith ar y ffordd i Geredigion ac y bydd yn rhaid gwneud toriadau ar draws y gwasanaethau.
“Rydym wedi gweld cymaint o gyfyngu gwasanaethau ar hyd y ddegawd ddiwethaf er mwyn cael cyllideb sy'n gweithio i'r Sir a nawr bydd yn rhaid edrych ar y glo mân er mwyn cael yr arbedion mawr sy'n rhaid i ni eu gwneud.
“Mae pawb yn deall bod arian yn brin ym Mae Caerdydd ac yr oedden ni'n rhagweld y byddai toriadau (mewn termau real) ar y ffordd ond yr hyn sy'n gwylltio rhywun heddi - o weld y setliad - yw bod Ceredigion yn cael triniaeth annheg.”
Dangos 1 ymateb