Mae Elin Jones, Aelod Cynulliad Ceredigion, wedi sicrhau cefnogaeth traws-bleidiol unfrydol yn y Cynulliad Cenedlaethol i sefydlu Senedd yr Ifanc i Gymru.
Mae Elin Jones wedi ymgyrchu eisoes dros gynyddu ymrwymiad pobl ifanc â gwleidyddiaeth, ac i ostwng yr oed pleidleisio i 16.
Mewn dadl yn y Cynulliad Cenedlaethol ar ddydd Mercher, dywedodd Elin:
“Mae gan y Cynulliad, fel Seneddau ledled y byd, her gyffredinol i gynyddu lefelau ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’n prosesau gwleidyddol. Wrth inni fynd i’r afael â’r heriau hynny, mae’n bwysig inni atgoffa ein hunain nad yw’r Cynulliad yma yn llawn o hen draddodiadau a ffyrdd hynafol o weithio; ni yw un o seneddau ifancaf Ewrop. Nid yw hynny’n rhywbeth i’w ofni; dylem wneud y gorau o’r cyfleoedd a ddaw yn sgil bod yn senedd newydd, sy’n ein rhyddhau ni i greu ffyrdd arloesol o wleidydda. Ac mae’n rhaid inni gynnwys pobl ifanc yn y gwaith yma. Mae’r penderfyniadau a wnawn ni yma yn effeithio ar eu dyfodol, ac felly mae’n rhaid inni wrando ar eu llais fel rhan annatod o’n trafodaethau.
“Rwy’n siŵr nad wyf yn derbyn nad oes gan bobl ifanc ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth. Er gwaethaf y ffaith na allant bleidleisio yn etholiadau’r Cynulliad hyd yn hyn, maent yn deall pwysigrwydd y penderfyniadau yr ydym ni’n eu gwneud yma. Maent yn gallu dweud wrthym pryd a sut y mae ein gweithredoedd yn effeithio arnyn nhw’n uniongyrchol, ac mae llawer ohonynt yn gweithio’n galed i ddylanwadu ar ein prosesau. Fodd bynnag, nid da lle gellir gwell.
“Fel cenedl sydd wedi ymrwymo i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, mae’n rhaid inni wneud yn well. Mae gan blant a phobl ifanc yr hawl i gymryd rhan fel dinasyddion nawr. Felly, mae’n rhaid inni gynyddu cyfleoedd ystyrlon i’w cynnwys yn ein gwaith ni yma—cyfraniad a fydd, rwy’n siŵr, yn ein hysbrydoli i feddwl yn wahanol am ddyfodol ein cenedl. Dylem hefyd eu helpu i drafod materion sy’n bwysig iddyn nhw, canfod ffyrdd i bobl ifanc ysgogi ein hagenda ni, ac, yn fwy na dim, mae’n rhaid inni wrando.
“Heddiw mae cyfle gennym i feddwl o’r newydd am ofod democrataidd cenedlaethol i bobl ifanc Cymru—gofod sy’n adlewyrchu’r gwahaniad rhwng llywodraeth a senedd.
Gorffennodd Elin ei haraith drwy ddiolch i sefydliadau’r ifanc sydd wedi ymgyrchu dros Senedd i’r Ifanc, gan ddweud:
“Maent wedi ymgyrchu'n ddiflino dros sefydlu cynulliad ieuenctid, gan greu corff gwych o waith ymchwil a thystiolaeth a fydd yn ein helpu ni i ddatblygu'r uchelgais yma.
“Diolch am ein hatgoffa nad yw ein dyletswydd i bleidleiswyr heddiw yn unig, ond i bob dinesydd o bob oedran sydd â rhan yn ein democratiaeth, yn y presennol a’r dyfodol.”
Diolchodd Emyr Gruffydd, cadeirydd Plaid Ifanc, un o adenydd ifanc gwleidyddol mwyaf weithgar yng Nghymru, Elin Jones, gan ddweud:
“Mae sefydlu Senedd i’r Ifanc yn ymgyrch rydym wedi ei gefnogi ers amser hir a phan y bydd yn cael ei sefydlu, fe fydd yn profi’n hynod o bwysig wrth hybu cyfranogiad pobl ifanc mewn gwleidyddiaeth a’r dealltwriaeth o’n systemau gwleidyddol. Hoffai Plaid Ifanc ddiolch i Elin Jones am ddod â sylw i’r achos hwn.”