Mae Plaid Cymru wedi diystyru cefnogi diwygio'r flwyddyn ysgol os bydd tymhorau ysgol newydd yn gwrthdaro â Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru neu Eisteddfod Genedlaethol Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi bwriad i ystyried diwygio'r flwyddyn ysgol gyda'r nod o rannu gwyliau ysgol yn fwy cyfartal ar draws y flwyddyn. Fodd bynnag, mynegwyd pryderon y gallai hyn olygu gwrthdaro rhwng amseroedd tymhorau ysgol yng Nghymru a'r Sioe Frenhinol, sy'n cael ei chynnal tua diwedd Gorffennaf bob blwyddyn, a'r Eisteddfod Genedlaethol sy'n cael ei chynnal yn ystod wythnos gyntaf mis Awst.
Cyfarfu Ben Lake AS ac Elin Jones ag aelodau Pwyllgor Cynghori Ceredigion o’r CAFC ddydd Iau (8 Chwefror) i drafod effaith posib newid unrhyw dymor ysgol ar Sioe Frenhinol Cymru.
Dywedodd Elin Jones AS:
“Hoffwn ddiolch i aelodau Pwyllgor Cynghori Ceredigion o’r CAFC am gwrdd â rhannu ein barn â ni. Nid ydym wedi gweld unrhyw argymhellion terfynol eto ac nid oes penderfyniad terfynol wedi’i wneud ac felly mae’n bwysig bod pob llais yn cael ei glywed fel rhan o’r ymgynghoriad cychwynnol yma.”
Dywedodd Ben Lake AS:
“Mae fy nghyd-aelodau o Blaid Cymru yn y Senedd wedi datgan y byddant yn gwrthwynebu unrhyw newid i’r calendr ysgol fydd yn cael effaith niweidiol ar y Sioe Amaethyddol Frenhinol neu’r Eisteddfod Genedlaethol.
“Rydym yn cydnabod arwyddocâd economaidd, cymdeithasol a diwylliannol Sioe Frenhinol Cymru a’r Eisteddfod Genedlaethol ac ni fyddwn yn cefnogi unrhyw argymhellion fydd yn eu niweidio gan unrhyw ddiwygiad i’r flwyddyn ysgol.”
Dangos 1 ymateb