"Stopiwch, adroddwch, siaradwch: Byddwch yn #sgamwybodol" medd Ben Lake AS. a Cyngor ar Bopeth Cymru

Screenshot_2020-12-16_at_11.23.05.png

Dengys ymchwil gan Gyngor ar Bopeth Cymru bod traean o oedolion (36%) wedi bod yn darged i sgam ers argyfwng Covid19.

Yn ogystal, dangosodd arolwg a gynhaliwyd ar ran yr elusen fod rhai grwpiau yn cael eu targedu fwyfwy gan sgamwyr, gan amlaf y rhai na allant ei fforddio:

  • Dywedodd 45% o'r rhai ag anabledd neu salwch tymor hir eu bod wedi'u targedu
  • Cysylltwyd â hanner (50%) y rhai sydd â risg uwch o gael coronafirws neu yn cysgodi
  • Cysylltwyd hefyd â dros hanner (54%) y rhai sydd wedi colli incwm personol oherwydd y firws.

Mae'r elusen wedi gweld galwadau gan aelodau'r cyhoedd sy'n poeni am gitiau profi ffug, brechiadau ac ad-daliadau gan y llywodraeth. Mae wedi nodi cynnydd o 19% yn y bobl sy'n ymweld â’i gwefan i gael cyngor sgam. Mae tudalennau gwe Cyngor ar Bopeth sy’n ymwneud â sgamiau wedi gweld 49,000 o ymweliadau'r mis ar gyfartaledd ers dechrau’r clo ym mis Mawrth, o'i gymharu â chyfartaledd o 41,000 o ymweliadau â’r tudalennau yn y tri mis blaenorol. O'r ymchwil yma, dywed mwyafrif y bobl (64%) eu bod yn poeni y bydd rhywun y maent yn ei adnabod yn cael ei dwyllo. A nododd y mwyafrif o bobl (90%) eu bod yn teimlo'n wyliadwrus o sgamwyr sy’n manteisio ar y sefyllfa. 

Dywedodd Rebecca Woolley, Cyfarwyddwr Cyngor ar Bopeth Cymru: 

"Ein neges i brynwyr dros gyfnod y Nadolig yw “Stopiwch, adroddwch, siaradwch: Byddwch yn #sgamwybodol”

"Mae argyfwng coronafirws yn golygu bod mwy o bobl yn wynebu problemau - o gyflogaeth a dyled, i dai ac iechyd - gan arwain at fwy o bobl mewn sefyllfaoedd bregus. Yn ychwanegol at hyn, mae'r ansicrwydd a'r pryder dwysach cyffredinol a achosir gan y pandemig yn gwneud pawb yn fwy bregus ac yn fwy tebygol o ddioddef sgam.

“Weithiau gall pobl deimlo’n dwp neu gywilydd yn adrodd eu profiadau, ond yn anffodus mae hyn yn golygu bod troseddwyr yn dianc heb gosb.” “Mewn gwirionedd, gall pob un ohonom fod yn ddigon anffodus o gael ein targedu â sgam. Rydyn ni'n gobeithio y bydd yr ymgyrch Ymwybyddiaeth Sgamiau yma yn annog pobl i rannu eu straeon a dysgu gwersi i atal sgamwyr rhag mynd ag arian pobl. ”

Dywedodd Ben Lake AS Ceredigion:

“Mae'r Nadolig fel arfer yn amser i ddathlu. Fodd bynnag, i rai, gall sgamiau ddifetha tymor yr ŵyl mewn gwirionedd. 

“Dyma pam rwyf wedi ymuno â Chyngor ar Bopeth Cymru i annog pobl nid yn unig i fod yn wyliadwrus o sgamiau ond, os ydyn nhw'n dod i gysylltiad â nhw, i roi gwybod amdano ac i rybuddio eraill. Os ydych chi'n ansicr ynglŷn â sgam posib, gwiriwch bob amser.” 

Os ydych chi'n poeni eich bod chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod wedi dioddef sgam, gallwch gysylltu â gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 03454 04 05 06 neu 03454 04 05 05 (Cymraeg).

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.