Pryder am Swyddfa Ddidoli Tregaron

Mae Elin Jones wedi galw am drafodaethau ynglŷn â dyfodol swyddfa ddidoli y Post Brenhinol yn Nhregaron.

Mae’r Swyddfa Bost yn y dref i fod i symud o’i leoliad presennol i’r siop Spar, sydd ar y sgwâr. Fodd bynnag, mae cangen y Swyddfa Bost presennol hefyd yn gartref i swyddfa ddidoli ac yn fan codi parseli, ac nid oes unrhyw wybodaeth wedi dod i law ynghylch sut y bydd hyn yn cael ei effeithio gan y newid.

Dywedodd Elin Jones, AC Plaid Cymru dros Geredigion;

"Mae llawer o ansicrwydd ar hyn o bryd, yn Aberystwyth gyda’r posibilrwydd o Swyddfa Bost y Goron yn cau, a nawr y mater gyda’r Swyddfa Bost a’r swyddfa ddidoli yn Nhregaron.

"Mae’r swyddfa ddidoli yn cyflogi nifer o staff y Post Brenhinol, a hefyd yn gwasanaethu fel lleoliad i gwsmeriaid godi parseli. Mae hi’n hanfodol nad yw newid lleoliad y Swyddfa Bost yn cael effaith negyddol ar wasanaethau post yn yr ardal. Mae’n rhaid i’r Post Brenhinol ei gwneud hi’n glir i staff ac i drigolion lleol beth yw'r cynlluniau."

Dywedodd Catherine Hughes, cynghorydd sir Tregaron;

"Rwy’n bryderus iawn bod dyfodol y swyddfa ddidoli yn dal i fod yn y fantol. Mae yna ddiffyg cyfathrebu gwirioneddol ar y mater hwn, ac rwyf yn mawr obeithio y bydd y Post Brenhinol yn dod i gyfarfod â Chyngor y Gymuned. Mae saith o bobl yn gweithio yn y swyddfa ddosbarthu; mae’r rhain yn swyddi y dylem ni sicrhau nad ydynt yn cael eu colli o Dregaron."

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.