Ymunodd AC Plaid Cymru Ceredigion Elin Jones â myfyrwyr o Aberystwyth a phrifysgolion eraill i orchfygu'r rhan o 'safonau iaith' arfaethedig Llywodraeth Cymru ar y defnydd o'r Gymraeg mewn cyrff cyhoeddus.
Cafodd y safonau fel ag y maent yn berthnasol i brifysgolion eu beirniadu'n helaeth gan undebau myfyrwyr ac ymgyrchwyr iaith. Yr ofn oedd y gallent wanhau’r hawliau y mae myfyrwyr yn eu mwynhau ar hyn o bryd yn Aberystwyth ac mewn mannau eraill i fyw mewn neuaddau Cymraeg dynodedig. Roedd hefyd pryderon fod y safonau yn methu sôn am y ddarpariaeth o wersi Cymraeg ar gyfer dysgwyr, neu gymorth TG yn yr iaith.
Mewn pleidlais yn y Cynulliad Cenedlaethol, gwrthodwyd y safonau iaith ar gyfer prifysgolion gan 27 o bleidleisiau i 26, gyda'r holl ACau o’r gwrthbleidiau yn pleidleisio yn erbyn.
Dywedodd AC lleol Ceredigion Elin Jones;
“Roeddwn yn falch o gwrdd â myfyrwyr o Aberystwyth a phrifysgolion eraill, oedd yn gwneud achos cryf bod y safonau iaith yn ymwneud ag addysg uwch fel y cynigwyd yn rhy amwys ar nifer o bwyntiau. Roedd hyn yn arbennig o siomedig gan fod Llywodraeth Cymru wedi cael llawr o amser i ystyried y mater hwn.
“Ar ôl pleidlais y Cynulliad Cenedlaethol, bydd y Comisiynydd Iaith Gymraeg a Llywodraeth Cymru yn awr yn gorfod ailystyried. Rwy’n gobeithio y byddant yn dod nôl â chanllawiau cliriach, a fydd yn ymdrin â mater neuaddau preswyl Cymraeg, gwersi Cymraeg ar gyfer dysgwyr a materion eraill sydd wedi cael eu hamlygu.
“Rwy’n llongyfarch y myfyrwyr ar eu hymgyrch lwyddiannus.”