Diogelwch yr A44 yn hollbwysig, meddai AC Ceredigion

Elin Jones yn galw am weithredu ar bryderon diogelwch y Ffordd Fawr

 a44_llun_2x1.png

Mae Aelod Cynulliad Ceredigion, Elin Jones AC, wedi galw eto am welliannau diogelwch ar yr A44 rhwng Aberystwyth a Llangurig. Mae yna ddefnydd trwm a chyson o’r ffordd yma gan nifer amrywiol o gerbydau, a thros y blynyddoedd ddiweddar mae yna nifer o achosion difrifol wedi digwydd arni.

Mae bron i ddwy flynedd ers i Weinidog diwethaf yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth gyhoeddi cynlluniau i adolygu diogelwch ac i ymrwymo i weithredu unrhyw awgrymiadau ar yr A44. Ers hynny, mae arwyddion wedi cael eu gosod yng Nghapel Bangor sy’n pwysleisio'r angen i deithwyr bwyllo ger yr ysgol bentref.

Ond mae Elin Jones wedi dweud wrth Ken Skates AC, yr Ysgrifennydd Cabinet presennol ar Economi a Thrafnidiaeth, bod angen mwy o sylw i ddiogelwch ar hyd llawer mwy o’r A44.

Dywedodd Elin Jones wrth yr Ysgrifennydd Cabinet:

“Mae’r A44 yn ffordd hanfodol bwysig i drigolion a busnesau Ceredigion trwy gydol y flwyddyn ac yn darparu rhan allweddol o isadeiledd canolbarth Cymru.

“Mae ymchwil gan Sefydliad Diogelwch Ffordd wedi canfod mai dyma’r ffordd fwyaf peryglus yng Nghymru, ac wedi graddio’r ffordd gyda gradd beryg o 166.6% - y pumed uchaf o unrhyw rai yn y DU.

“Mae’n holl bwysig i economi canolbarth Cymru bod y ffordd hon yn cael ei gwella.  Mae lorïau enfawr yn gwneud defnydd trwm ohoni ac mae felly’n bwysig bod cyfleoedd goddiweddyd digonol a diogel ar gael i gerbydau eraill.  Mae’n bryd i’r ffordd ddod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.”

Hefyd gofynnodd Elin Jones i’r Ysgrifennydd Cabinet am fanylion penodol am gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddatblygu diogelwch ar y darn cyfan o’r A44 rhwng Aberystwyth a Llangurig.  

Yn ddiweddarach, dywedodd Elin Jones:

“Mae’r A44 yn hanfodol bwysig ac yn ffordd na ellir ei hosgoi i lawer o bobl canolbarth Cymru ac mae diogelwch ar y rhan brysur hon o’r ffordd yn holl bwysig.  Rwy’n gobeithio bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn cymryd camau i hybu diogelwch, ac rwy’n barod i gydweithio gydag e er mwyn sicrhau hyn.”

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.