Sadwrn Sblennydd Ceredigion Preseli

Ymunwch â ni ar ddydd Sadwrn, yr 28ain o Hydref am ‘Sadwrn Sblennydd’ o ymgyrchu yn ardal y Preseli. Ar ôl lansiad hynod lwyddiannus i ymgyrch Ben Lake fis diwethaf, mae hi nawr yn amser i weithredu! Byddwn yn cael diwrnod o ddosbarthu taflenni i bob cwr o ogledd Penfro er mwyn lledaenu neges Plaid Cymru a chodi ymwybyddiaeth o Ben Lake yn ardaloedd newydd ei etholaeth. O Landudoch i Lanrhian, o Grymych i Gwm gwaun. Byddwn yn cwrdd ym maes parcio Clwb Rygbi Crymych am 10am ar gyfer y briffio. Yno, byddwch yn derbyn taflenni a chyfarwyddiadau o ran ble i fynd. Mae’n gyfle gwych i gwrdd â’r tîm ac i ddechrau ar y gwaith. Mae croeso i bawb, aelodau a chefnogwyr, felly dewch yn llu! 

Peidiwch â phoeni – byddwn ni wedi gorffen cyn gêm rownd derfynol Cwpan Rygbi’r Byd! 

PRYD
October 28, 2023 at 10:00am - 2pm
BLE
Clwb Rygbi Crymych
Crymych, Wales SA41 3QE
United Kingdom
Map Google a chyfarwyddiadau
CYSWLLT
Elain Roberts ·
9 RSVPs
Aled Morgan Hughes Elwyn Jones Catrin Howells

A fyddwch yn dod?


Dangos 6 o ymatebion

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.