Cefndir
- Gweithiwr archfarchnad yn Llanbed gyda ffocws ar wasanaethu cwsmeriaid
- Gwirfoddolwr yn Nghanolfan Brechu Torfol y Gwasanaeth Iechyd
- Cynnig gwasanaeth cyfeillio trwy Age Cymru Dyfed
Pam pleidleisio dros Ryan?
"Pe bawn yn cael y cyfle i gynrychioli ward Llanwenog ar Gyngor Sir Ceredigion, byddwn yn anrhydeddu eich pleidlais ac yn gwneud popeth o fewn fy ngallu dros bawb yn y gymuned.
Cefais fy ngeni a'm magu yn ne Cymru a symudais i Alltyblaca dair mlynedd yn ôl. Rwy’n 19 oed ac ar ôl cael canlyniadau Lefel A da yn 2021, rwy’n ffyddiog y byddwn yn gallu rhoi fy amser i fod yn gynrychiolydd teg dros boblogaeth amrywiol y ward hon, yn cynnwys y genhedlaeth iau sy'n aml yn teimlo nad oes ganddynt lais. Rwy'n gweithio mewn archfarchnad yn Llanbed ac yn gwirfoddoli gyda dau sefydliad pwysig - Age Cymru Dyfed a'r Gwasanaeth Iechyd.
Dwi'n angerddol dros faterion lleol ac yn credu'n gryf dros gymryd yr awenau a gweithredu drosom ein hunan. Rwy’n ymwybodol o’r heriau a wynebir gan gymunedau cefn gwlad y Ward hon, megis diffyg symudedd cymdeithasol a diffyg gwasanaethau cyhoeddus.
Rwy’n mawr obeithio y gallaf sicrhau eich ymddiriedaeth i’m hethol yn Gynghorydd Sir gweladwy a hygyrch ar y 5ed o Fai."
Blaenoriaethau Ryan
- Gwasanaethau cyhoeddus
- Fel rhywun sy'n defnyddio'r gwasanaeth bws T1 yn rheolaidd, rwy’n ymwybodol o’r annhegwch sy'n wynebu teithwyr o ganlyniad i'r toriadau a gyfwynwyd yn sgil y pandemig. Byddwn yn anelu at weithio gydag asiantaethau perthnasol i adfer a chynyddu darpariaeth y gwasanaethau hyn.
- Diogelwch ffyrdd
- Cyflwyno mesurau tawelu traffig megis darparu llwybrau troed, lle bo modd, er diogelwch y cyhoedd. Byddwn hefyd yn anelu at weithio gyda Llywodraeth Cymru i gyflwyno terfynau cyflymder yn y Ward.
- Ein cymuned
- Mae ward Llanwenog yn wledig iawn ac felly ar brydiau, gall fod yn ynysig. Dyna pam y byddai'n bwysig i mi weithio gyda’r gymuned a defnyddio unrhyw gyllid sydd ar gael i gefnogi neu sefydlu grwpiau cymunedol er mwyn cefnogi anghenion lleol a mynd i'r afael ag unigrwydd yn ein cymdeithas.
- Yr amgylchedd
- Lleihau ein hôl-troed carbon trwy sicrhau bod polisïau caffael y sector cyhoeddus yn lleol, yn dymhorol ac yn dod o ffynonellau cynaliadwy.
- Cysylltedd
- Gwella cysylltiad band eang a ffôn symudol yr ardal.
Manylion cyswllt: |
[email protected] |
07450 255406 |
Dangos 1 ymateb