ASau yn galw ar ddarparwyr rhwydwaith i fynd i'r afael â diffyg gwasanaeth ffôn symudol

freestocks-org-662168-unsplash.jpg

Mae grŵp trawsbleidiol o 75 o ASau wedi ysgrifennu at Jeremy Wright AS, Ysgrifennydd Gwladol Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, i ofyn i'r Llywodraeth ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr rhwydwaith alluogi crwydro rhwng darparwyr er mwyn gwella signal ffonau symudol mewn ardaloedd gwledig.

Dywedodd Ben Lake AS, un o'r llofnodwyr:

"Mae diffyg cydgysylltu rhwng darparwyr rhwydwaith wedi golygu nad yw pob rhwydwaith yn gweithio o fewn ardaloedd gwledig. Mae hyn yn llesteirio cyfleoedd economaidd, addysgol a hamdden i drigolion mewn ardaloedd gwledig ac mae'n parhau i fod yn rhwystr sylweddol i dwf economi lleol, ranbarthol a chenedlaethol. Bydd cyflwyno gwasanaethau crwydrol rhwng rhwydweithiau yn cynyddu'r ddarpariaeth weithredol yn sylweddol ar gyfer llawer o'n hetholwyr ".

Mewn rhai rhannau o'r DU, ardaloedd gwledig yn bennaf, mae signal ysbeidiol ond yn darparu gwasanaeth cyfyngedig, neu dim gwasanaeth. Cefnogodd Ben Lake AS a chyd-lofnodwyr y llythyr, Flaenoriaethau Strategol Llywodraeth y DU ar Gyfer Ofcom, y rheolydd telathrebu, sy'n galw ar yr awdurdod i ystyried yn llawn gostau a manteision crwydro mewn ardaloedd gwledig. Er bod Ofcom wedi cytuno y byddai 'cyd-weithrediadau gweithredwyr' yn gwella signal ffonau symudol, mae'r ASau yn annog yr Ysgrifennydd Gwladol i fynd un cam ymhellach a'i gwneud yn ofynnol i ddarparwyr rhwydwaith ddarparu hyn.

Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i sicrhau bod signal symudol ar gael i 95% o'r DU erbyn 2022 ond bydd hyn yn dal i adael llawer o ardaloedd heb signal ymarferol.

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.