Dylai Cymru ddilyn esiampl Gorllewin Awstralia wrth ddenu meddygon a nyrsys, meddai Ben Lake AS
Mae AS Plaid Cymru Preseli Ceredigion, Ben Lake, wedi dweud y dylai Cymru ddilyn arweiniad rhanbarthau fel Gorllewin Awstralia wrth ddenu gweithwyr i lenwi prinder sgiliau yn y gwasanaethau cyhoeddus drwy ymgyrchoedd hyrwyddo.
Rhybuddiodd y gallai diboblogi gwledig yng Nghymru arwain at “gwymp mewn gwasanaethau cyhoeddus” heb ymyrraeth gan y llywodraeth i gadw pobol ifanc yn yr ardaloedd hyn a denu gweithwyr o rannau eraill o’r byd. Lansiodd Gorllewin Awstralia ymgyrch y llynedd yn targedu gweithwyr yn y DU ac Iwerddon, gan eu hudo ag addewidion o gyflogau uwch, ansawdd bywyd gwell, a chostau byw is. Dywedodd gweinidog llywodraeth Gorllewin Awstralia, Paul Papalia, yn yr hyrwyddiad, “Rydyn ni yma i ddwyn eich gweithwyr trwy gynnig bywyd gwell iddyn nhw yn un o lefydd harddaf y byd.”
Amlygodd Ben Lake AS y “manteision niferus o fyw yng nghefn gwlad” Cymru ac anogodd lywodraethau Cymru a’r DU i wneud mwy i ddenu gweithwyr allweddol i gymunedau gwledig. Nododd fod Ceredigion wedi cofnodi gostyngiad o 5.9% yn ei phoblogaeth yn y cyfrifiad diwethaf, tra bod poblogaeth Sir Benfro wedi aros yn llonydd. Mae’r etholaeth yn profi “canlyniadau gwirioneddol diboblogi,” gan gynnwys prinder meddygon teulu, absenoldeb gwasanaethau deintyddol y GIG yn llawer o’r rhanbarth, cau ysgolion, a diffyg cyfleusterau bancio. Bydd Cymru wledig yn wynebu “cwymp mewn gwasanaethau cyhoeddus” oni bai bod Llywodraeth Cymru, ynghyd â Llywodraeth y DU, sy’n dal yr holl bwerau sy’n ymwneud â mewnfudo yng Nghymru, yn cymryd camau i helpu i ddenu gweithwyr.
Wrth siarad yn San Steffan yr wythnos hon, dywedodd Ben Lake AS:
“Rwy’n cynrychioli Preseli Ceredigion. Yn y cyfrifiad diwethaf, cofnododd Ceredigion—y rhan fwyaf o’m hetholaeth—gostyngiad o 5.9% yn ei phoblogaeth gyffredinol, a gwelodd y cymunedau ym Mhreseli neu Sir Benfro yr wyf yn eu cynrychioli bellach fod eu poblogaeth yn ddigynnydd. Mae hon yn broblem go iawn yr ydym yn byw gyda hi heddiw. Beth mae'n ei olygu? Yn ymarferol, mae’n golygu ein bod yn cael trafodaethau anodd iawn ynghylch, er enghraifft, y ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus ac a yw’r ystâd ysgolion yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Yr ydym yn sôn am y diffyg meddygon teulu a’r ffaith nad oes gennym ddeintydd GIG mwyach mewn llawer o’r etholaeth. Mae tri banc adnabyddus yn y DU wedi gadael yr etholaeth, gan olygu nad oes ganddynt yr un gangen yn y ddwy sir yr wyf yn eu cynrychioli. Dyma wir ganlyniad diboblogi.
Parhaodd:
“Mae hyn yn rhywbeth y gall Llywodraeth y DU helpu gydag ef, ac yn rhywbeth dylent fod yn ymwybodol ohono. Pan fydd Swyddfa’r Cabinet yn edrych ar yr ystod o risgiau y mae’n rhaid iddi eu monitro fel rhan o’i chylch gwaith—rhywbeth a drafodwyd gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn y Senedd flaenorol—dylai edrych ar sut y gallai’r anghysondebau mewn tueddiadau demograffig ar draws yr ynysoedd hyn gael effaith ar wasanaethau cyhoeddus allweddol, oherwydd mewn rhai ardaloedd yng Nghymru wledig byddwn, mae arnaf ofn, yn gweld cwymp sylweddol yn ein gallu i'w cynnal. Bydd hynny’n cael effaith ganlyniadol ar ardaloedd mwy trefol, sydd eu hunain yn wynebu heriau o ran pwysau demograffig gwahanol.
“Mae hon yn ddadl bwysig, a byddwn yn gofyn i Weinidog y Swyddfa Gartref ystyried, fel rhan o’i gwaith pwysig yn y Senedd newydd hon, y gwersi sydd i’w dysgu o brofiadau ar draws y byd. Soniodd yr Aelod dros Swydd Perth a Swydd Kinross (Pete Wishart, SNP) am brofiad Quebec. Yn ngorllewin Cymru, rydym yn aml yn troi'r radio ymlaen i glywed hysbysebion gan Lywodraeth Gorllewin Awstralia yn ceisio denu llawer o'n meddygon a'n nyrsys ifanc i fudo i'r rhan honno o'r byd. A oes cymhellion y gallem eu defnyddio i berswadio mwy o’n pobl ifanc i aros neu i ddenu pobl o rannau eraill o’r byd? Mae llawer o fanteision i fyw yng nghefn gwlad. Efallai y gallem fod yn fwy creadigol wrth fynd i’r afael â’r broblem hon, a hynny ar frys, oherwydd rwy’n ofni nad oes gennym lawer o amser ar ôl i ddelio â hi.”
Dangos 1 ymateb