Pryder dros gynnydd mewn trosedd gwledig

benlakemp_ceredigion_edit.jpg

Adroddiad gan NFU Mutual yn nodi cynnydd o 41.4% mewn costau trosedd gwledig yng Nghymru 

Mae Ben Lake, Aelod Seneddol dros Geredigion, wedi nodi pryder yn dilyn adroddiad diweddar a ddangosodd gynnydd nodedig mewn costau lefelau trosedd gwledig yng Nghymru.

Dangosai amcangyfrifon gan NFU Mutual, sydd yn yswirio dros 75% o ffermydd y DU, y bu i gost ladrata o gartrefi gwledig, busnesau a ffermydd yng Nghymru yn 2017 sefyll ar £1.9 miliwn – cynnydd o 41.4% ar gostau 2016.

Mae’r cynnydd yng Nghymru yn cymharu’n wael gyda chynnydd cyfateb o 13.4% ar draws y DU – newid o £39.2 miliwn yn 2016 i £44.5 miliwn erbyn 2017. Yn ôl yr adroddiad. y pethau sy'n cael eu dwyn amlaf oedd cerbydau tir, beiciau cwad, offer, ac anifeiliaid.

Dywedodd Ben Lake AS, llefarydd Plaid Cymru yn San Steffan dros Amaeth a Materion gwledig:

“Yn lawer rhy aml mae ffermwyr yn cysylltu gyda mi sydd yn anffodus wedi cael eu targedu gan droseddwyr – ac mae’r ffigyrau diweddaraf hyn ond yn atsain y ffaith bod troseddu gwledig yn broblem sylweddol ar draws Cymru.”

“Mae lluoedd heddlu ar draws y DU dan straen cynyddol yn dilyn blynyddoedd o doriadau i’r gyllideb ganolog maent yn ei dderbyn gan y Swyddfa Gartref, ac mae’n rhaid i luoedd gwledig megis Dyfed Powys ddelio gyda’r pwysau o heddlua ardal ddaearyddol sylweddol ei maint.

“Mae’n hanfodol bod ein lluoedd heddlu yn derbyn adnoddau digonol er mwyn cyrraedd yr angen ar gyfer eu hardaloedd. Bydd math alw yn newid o ardal i ardal, ac yn sgil yr adroddiad diweddar yma, rwyf eto yn galw ar y Llywodraeth i adolygu'r fformiwla ar gyfer cyllid canolog heddlu er mwyn sicrhau bod heriau heddlua gwledig yn cael eu cydnabod pan gaiff y cyllid ei ddosbarthu. Dylai mwy o gyllid hefyd cael ei sicrhau er mwyn medru hwyluso a chefnogi cyd-weithio rhwng lluoedd heddlu gwahanol – gan yn aml iawn caiff math drosedd gwledig ei gyflawni gan grwpiau sy’n gweithredu ar draws ffiniau heddlu.

“Hoffwn annog unrhyw un sydd wedi dioddef o droseddu gwledig i gysylltu gyda Heddlu Dyfed Powys yn uniongyrchol, neu'r gwasanaeth ‘Gwared ar Droseddau Gwledig’ newydd wrth alw 0800 783 0137 neu drwy ymweld â’i gwefan.

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.