AS yn mynd â'r frwydr dros wasanaethau bancio gwledig i'r Trysorlys

EST_Meeting_Ben_Lake_3.jpg

Gan weithio ochr yn ochr â dirprwyaeth drawsbleidiol o ASau sy'n cynrychioli etholaethau gwledig, mae Ben Lake wedi cwrdd ag Ysgrifennydd Economaidd y Trysorlys, John Glen, i drafod cau canghennau banc yng nghefn gwlad a chyflwyno’r achos o blaid datrysiadau arloesol megis canolfannau bancio cymunedol.

Mae'r trafodaethau hyn yn rhan o ymdrechion Ben Lake i gyflwyno Bil yn y Senedd a fydd yn sicrhau nad yw cwsmeriaid yn cael eu gadael heb wasanaethau ariannol sylfaenol pan fydd banciau lleol yn cau eu drysau.

Yn dilyn y cyfarfod, dywedodd Ben: “Mae dros 2,800 o ganghennau banciau cymunedol ledled y Deyrnas Gyfunol wedi cau eu drysau dros y pedair blynedd diwethaf yn unig. Mae hwn yn fater o bwys mawr, a chyda threfi a phentrefi di-ri heb un gangen bellach, cymunedau cefn gwlad sydd wedi cael eu taro galetaf. 

“Yn anffodus, mae gan lawer o'r mesurau a fwriadwyd i leihau effeithiau cau canghennau banc – e.e. trosglwyddo cyfrifoldeb am wasanaethau bancio i'r Swyddfa Bost, bancio ar-lein, a changhennau symudol - eu heriau eu hunain, ac nid ydynt bob amser yn ddatrysiadau priodol. O ganlyniad, mae cwsmeriaid a chymunedau yn colli allan.

“Mae'r cysyniad o sefydlu canolfannau cymunedol lle gall gwahanol fanciau gydleoli eu gwasanaethau mewn ardaloedd gwledig yn un sydd yn cael ei gefnogi’n eang, ac mae'r cyhoeddiad am gynllun peilot 6 mis o 6 hwb bancio busnes yn Lloegr yn addawol. Yr hyn sydd angen ei wneud nawr yw treialu’r peilot yma mewn ardaloedd gwledig a byddaf yn pwyso am i hyn ddigwydd ochr yn ochr â fy nghydweithwyr yn San Steffan.  

“Mae’n hanfodol bod Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn annog banciau i archwilio'r opsiynau amgen hyn er mwyn sicrhau eu bod yn cyflawni eu rhwymedigaeth i ddarparu cymorth a gwasanaethau i bawb sydd eu hangen, lle bynnag y maent yn byw.” 

Mae Ben Lake wedi bod yn cydweithio gydag ASau eraill i ddylanwadu ar Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol ynghylch cau canghennau banc. Yn 2018, caeodd RBS ganghennau NatWest yn Llanbedr Pont Steffan ac Aberteifi. Nid oes gan Landysul a Thregaron unrhyw ganghennau banc bellach a bydd cangen olaf Aberaeron (Barclays) yn cau ar 31 Mai 2019.

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.