Yn ddiweddar, cyfarfu Ben Lake ag Antony Metcalfe, Rheolwr Ardal Cymru'r Lleng Prydeinig, Chris Headon, cyn filwr a chynrychiolwyr o’r elusen mewn digwyddiad yn San Steffan i drafod y gefnogaeth i gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru.
Y Lleng yw elusen Lluoedd Arfog fwyaf y genedl ac mae’n darparu gofal a chefnogaeth i holl aelodau a chyn aelodau’r Lluoedd Arfog Prydeinig ynghyd a'u teuluoedd. Rhwng Hydref 2017 a Medi 2018 darparodd y Lleng dros £460,000 mewn grantiau i gefnogi aelodau cymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru ac ymgysylltodd â 9,100 o bobl yn uniongyrchol drwy ei chanolfannau galw mewn ar y stryd fawr ac mewn canolfannau allgymorth. Cwblhaodd gwasanaeth fan y Lleng 2,247 o dasgau ledled Cymru, gan helpu pobl yn eu cartrefi i fyw'n annibynnol a chyda'r cymorth sydd ei angen arnynt.
Dywedodd Ben Lake AS:
“Mae'n hanfodol ein bod fel cenedl yn edrych ar ôl ein cyn-filwyr a'u teuluoedd. Ni ddylai'u haberth fyth gael ei ddibrisio.
“Roedd yn bleser cyfarfod â'r Lleng Prydeinig Brenhinol yn y Senedd a'u cefnogi yn y gwaith hanfodol maen nhw'n ei wneud dros ein cyn-filwyr. Rhaid i ni sicrhau bod y rhai sy'n barod i wneud yr aberth eithaf er ein diogelwch a'n sicrwydd yn derbyn gofal pan fyddant yn gadael y Lluoedd Arfog ac mae elusennau fel y Lleng Prydeinig Brenhinol yn allweddol i ddarparu cefnogaeth a gwasanaethau i'n cyn-filwyr. ”
Dywedodd Antony Metcalfe, rheolwr ardal y Lleng yng Nghymru:
“Roeddwn wrth fy modd yn gweld Ben Lake ac roeddem yn ddiolchgar ei fod wedi cymryd yr amser i alw heibio. Mae'r Lleng Prydeinig Brenhinol yn cynnig ystod o gymorth lles i holl gymuned y Lluoedd Arfog, o’r gorffennol a'r presennol, drwy gydol y flwyddyn. Roedd y digwyddiad hwn yn gyfle gwych i ni ledaenu'r neges am yr amrywiaeth o wasanaethau rydym yn eu darparu yng Nghymru ac i Ben Lake gael clywed o lygad y ffynnon gan nifer o bobl yr ydym wedi eu helpu ers iddynt adael y Lluoedd. Edrychaf ymlaen at weithio gyda Ben Lake yn y dyfodol er mwyn sicrhau bod anghenion cymuned y Lluoedd Arfog yn cael eu hadlewyrchu mewn polisïau ar bob lefel yng Nghymru a'r DU ”.