RNLI i ohirio israddio gorsaf Cei Newydd tan 2021

RNLI.jpg

Yn 2017, cyhoeddodd yr RNLI na fyddai ei orsaf bad achub yng Ngheredigion yn gartref i gwch pob tywydd ar ôl 2020.

Cythruddwyd trigolion lleol a gwirfoddolwyr fel ei gilydd gan benderfyniad yr RNLI, a chwestiynwyd doethineb gadael darn 75 milltir o arfordir Cymru heb ei amddiffyn gan fad achub pob tywydd. Yn lle hynny, dim ond y bad achub llai ar gyfer y glannau fyddai'n cael ei defnyddio.

Fodd bynnag, mae'r RNLI wedi cyhoeddi ei fod am ohirio'r cynlluniau hyn, gan roi ystyriaeth pellach i'r sefyllfa yn rhan o'r adolygiad o Fae Ceredigion fydd yn cael ei gynnal yn 2021. Dywedodd llefarydd ar ran yr elusen: “Gallaf gadarnhau y bydd y Mersey yn aros yn yr orsaf tan 2021. Bydd Adolygiad o Arfordir Bae Ceredigion yn 2021, felly ni fwriedir i'r Mersey adael tan ar ôl yr adolygiad hynny.”

Mae Ben Lake wedi dangos ei gefnogaeth lawn i'r ymgyrch ers iddo gael ei ethol i'r Senedd yn 2017. Y cwestiwn cyntaf erioed iddo godi adeg Cwestiynau i’r Prif Weinidog ym mis Mawrth 2018 oedd am benderfyniad yr RNLI, ac ers hynny mae wedi parhau i godi'r mater yn y siambr a chyda Gweinidogion y Llywodraeth, hefyd sicrhaodd gyfarfod gyda'r Gweinidog Morwrol yn ddiweddar. Mae Mr Lake hefyd wedi cyfarfod â'r RNLI i drosglwyddo negeuon ar ran etholwyr ac mae wedi gweithio ar y cyd ag Ymgyrch Bad Achub Ceredigion dros y ddwy flynedd ddiwethaf.


Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd Ben Lake:

“Rwy'n croesawu penderfyniad yr RNLI i ymestyn gwasanaeth bad achub pob tywydd Cei Newydd tan 2021 yn fawr iawn, ac rwy'n hyderus y bydd y penderfyniad nid yn unig yn cael ei groesawu yng Ngheredigion, ond tu hwnt hefyd.

“Ar hyn o bryd dim ond estyniad blwyddyn yw hon, ond gobeithiaf y bydd y penderfyniad yn caniatáu Adolygiad Arfordir 2021 i ystyried ac ymgysylltu â phryderon lleol, yn ogystal ag asesu'r penderfyniad gwreiddiol yn erbyn yr amodau newidiol ar hyd yr arfordir. Wrth ystyried newidiadau mor bwysig, mae bob amser yn well gohirio er mwyn sicrhau bod y penderfyniad cywir yn cael ei wneud. Rhaid canmol yr RNLI am eu parodrwydd i sicrhau bod darpariaeth bad achub pob tywydd ar hyd Bae Ceredigion yn ddigonol cyn symud ymlaen ymhellach, yn ogystal â'r grŵp o ymgyrchwyr lleol - Ymgyrch Bad Achub Ceredigion. Maent wedi gweithio'n ddiflino ers 2017 i sicrhau bod y gwasanaeth y maent yn ei gefnogi a'i barchu’n fawr yn addas ar gyfer anghenion y gymuned leol.”

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.