AS Ceredigion yn galw am fesurau brys i ddiogelu teuluoedd rhag codiadau yng nghostau tanwydd

dan-lefebvre-RFAHj4tI37Y-unsplash.jpg

Mae ffigurau diweddar gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod Cymru wedi wynebu'r biliau ynni uchaf yn y DU gyfan, gyda phedwar awdurdod lleol yng Nghymru (Ceredigion, Gwynedd, Sir Gaerfyrddin a Phowys) ymhlith y deg sir ar ben y rhestr am y biliau ynni uchaf.

Mae prisiau olew gwresogi wedi mwy na dyblu yn ystod yr wythnosau diwethaf, gan adael llawer o gartrefi gwledig yn wynebu biliau ynni uchel. Cysylltir prisiau olew gwresogi â phrisiau olew yn fwy cyffredinol, ac yn dilyn ymosodiad Rwsia ar Wcráin mae prisiau wedi cynyddu'n gyflym. Yn ôl Boiler Juice mae'r costau'n yn 155.35c y litr, i fyny o 68.66c ar 24 Chwefror, y diwrnod yr ymosododd Rwsia ar Ukrain. Mae hyn yn gynnydd o 126 y cant.

Mae cartrefi gwledig hefyd yn wynebu oedi hir i dderbyn cyflenwad olew ac LPG gan fod y prinder gyrwyr HGV parhaus yn golygu bod darparwyr yn ei chael hi'n anodd cwblhau archebion.

Mae Ben Lake AS wedi galw am ddatganiad brys gan Lywodraeth y DU ar y cynnydd mewn costau tanwydd ac ynni, a'u heffaith ar ardaloedd gwledig, ac am y posibilrwydd o gyflwyno cynlluniau ad-daliadau dros dro i helpu i leddfu rhywfaint o'r gost hon. Gwnaeth Mr Lake araith arall ar yr argyfwng costau byw yn Nhŷ'r Cyffredin yn gynharach yr wythnos hon.

Yn ystod ei araith, dywedodd Ben Lake AS:

"Mae'r argyfwng costau byw eisoes yn taro ein cymunedau'n galed. Mae'r sefyllfa'n arbennig o ddifrifol mewn ardaloedd gwledig fel fy un i yng Ngheredigion, lle mae prisiau tanwydd ac ynni cynyddol yn effeithio'n drwm ar gyllid cartrefi.

"Nid yw bron i un rhan o bump o aelwydydd Cymru wedi'u cysylltu â'r grid nwy, ac mewn ardaloedd gwledig fel Ceredigion gall y ffigwr fod mor uchel ag 80%, sy'n golygu nad ydynt wedi'u diogelu'n llwyr rhag sbeics mewn prisiau ynni. Mae etholwyr wedi gweld pris olew gwresogi yn treblu ers mis Medi, ac mae llawer wedi cael gwybod yr wythnos hon na ellir cludo i rannau o Geredigion ar hyn o bryd. Gyda thlodi tanwydd gwledig eisoes tua 14%, rwy’n pryderu am fy etholwyr os bydd y sefyllfa'n parhau.

"Rwy'n cefnogi'r "Energy Pricing (Off Gas Grid Households) Bill", mesur sy'n cael ei gyflwyno gan Drew Hendry AS a fyddai o leiaf yn dod â chartrefi sydd oddi ar y grid i ryw fath o drefniant rheoleiddio a fyddai'n eu gwarchod rhag natur cyfnewidiol y farchnad ynni."

Er mwyn lliniaru ymhellach yr argyfwng costau byw i bobl mewn ardaloedd gwledig, mae Ben Lake AS wedi galw am ymestyn y cynllun Rhyddhad Treth Tanwydd Gwledig i Gymru.

Mae'r Rhyddhad Treth Tanwydd Gwledig yn caniatáu i fanwerthwyr hawlio hyd at 5c y litr o ryddhad treth ar betrol di-blwm a disel, a throsglwyddo'r arbedion i gwsmeriaid, sy’n gynnwys 17 o ardaloedd yn Lloegr a'r Alban - rhannau o'r Ucheldiroedd, Argyll a Bute, Northumberland, Cumbria, Dyfnaint, a Gogledd Swydd Efrog. Fodd bynnag, nid oes unrhyw ardaloedd yng Nghymru yn gymwys ar gyfer y cynllun ar hyn o bryd.

Ychwanegodd Ben Lake AS: "Mae costau ynni cynyddol yn debyg i gostau tanwydd cynyddol, ac mewn ardaloedd gwledig mae diffyg seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus yn gorfodi llawer i fod yn ddibynnol ar ddefnyddio ceir preifat. Mae tua 80% o gymudwyr yn dibynnu ar y car, felly mae'n bryder gwirioneddol pan fydd prisiau pwmp yn cynyddu tua 10c y litr mewn ychydig ddyddiau. Dywedwyd wrthyf fod rhai gorsafoedd yn fy etholaeth wedi gweld cynnydd o 15% neu hyd yn oed 20% yn ystod yr wythnos neu ddwy ddiwethaf.

"Mae'n hanfodol bod Llywodraeth y DU yn cymryd pob cam posibl i liniaru'r effaith ar y rhai sydd sy’n mynd i gael eu heffeithio gan brisiau cynyddol."


Dangos 1 ymateb

  • Carys Lloyd
    published this page in Newyddion 2022-03-16 13:02:38 +0000

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.