Richard Jones: Mwldan

Richard_Jones_gwefan.png

Cefndir Richard 'Oernant' Jones

  • Cynghorydd Tref Aberteifi ers 2012
  • Wedi'i eni a'i fagu ac yn ffermwr llaeth organig ar Fferm Oernant, Aberteifi
  • Yn gyfrifol am ffurfio'r grwp 'Carnifal Aberteifi' wnaeth adfywio'r carnifal yn 2017

Pam pleidleisio dros Richard

“Rwy’n ffermwr llaeth organig ar gyrion Aberteifi ac rwyf wedi bod yn Gynghorydd Tref Aberteifi ers 2012.

Yn fy mlwyddyn fel maer sefydlais y grŵp ‘Carnifal Aberteifi’ sydd wedi bod yn gyfrifol am ailddechrau'r carnifal ac fe wnaethom hefyd osod y goleuadau sy'n croesawu pobl i'r dref. Mae'r grŵp hefyd bellach yn gyfrifol am yr arddangosfa golau Nadolig ac yn ddiweddar bu i ni gymryd cyfrifoldeb dros redeg y farchnad stryd ar ddiwrnod Ffair Aberteifi. Rwy'n Gardi i'r carn ac rwy'n angerddol am fy nhref enedigol a byddaf yn gwneud fy ngorau glas i sicrhau bod Aberteifi yn dref bywiog a ffyniannus.

Rwy’n berson penderfynol, gonest a theg, ac rwy’n barod i weithio’n ddiwyd dros holl breswylwyr y ward.

Gofynnaf am eich cefnogaeth ar 5 Mai."

Blaenoriaethau Richard

  • Gwella a datblygu cyfleoedd i fusnesau bach annibynnol er mwyn cryfhau'r economi leol.
  • Datblygu a hyrwyddo un o'n hasedau mwyaf gwerthfawr yn lleol - yr afon Teifi.
  • Lleihau ein hôl-troed carbon trwy sicrhau bod polisïau caffael y sector cyhoeddus yn lleol, yn dymhorol ac yn dod o ffynonellau cynaliadwy.
  • Ymgyrchu i sicrhau cartrefi fforddiadwy i bobl leol yn eu milltir sgwâr.
  • Gwella'r gwasanaethau a'r adnoddau i'r henoed a'r bregus yn ein cymdeithas.
  • Cefnogi unrhyw un sydd angen help a sicrhau bod llais Aberteifi yn cael ei glywed ar lefel sirol.

 

Manylion cyswllt:
[email protected]
07837 408659

Dangos 1 ymateb

  • Carys Lloyd
    published this page in Ymgeiswyr 2022-03-15 19:58:18 +0000

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.