Ben Lake AS yn dathlu ailagor The Rhydypennau Inn

Rhydypennau_Inn.png

Ymunodd AS Ben Lake yn y dathliadau i ailagor The Rhydypennau Inn nos Fercher diwethaf. Caewyd y dafarn am dros fis ar y 12fed Ionawr ar gyfer adnewyddiad gwerth £346,000 gan Stars Pubs & Bars sy’n eiddo i Heineken. Crëwyd 10 swydd newydd, gan gynnwys rôl i ail gogydd ar gefn y buddsoddiad a fydd yn gweld y dafarn gymunedol yn cael ei huwchraddio a'i thrawsnewid yn dafarn bentref sy'n cynnig bwyd, diod a gwasanaeth o'r safon uchaf.

Mae adnewyddu The Rhydypennau Inn yn rhan o fuddsoddiad gwerth £50 miliwn gan ‘Star Pubs & Bars’ mewn tafarndai a bariau ledled y wlad yn 2019.

Siaradodd AS Ben Lake gyda’r tafarnwr lleol, Barrie Jones am werth tafarndai yn y gymuned a siaradodd hefyd am bwysigrwydd yr ymgyrch Long Live the Local sy’n tynnu sylw at yr angen i dorri cyfraddau treth cwrw.

Dywedodd AS Ben Lake:
"Rwyf wrth fy modd fy mod wedi gallu ymuno â’r Rhydypennau Inn ar noson yr ailagor. Mae tafarndai yn aml yn gonglfeini ein cymunedau lleol ac ar adeg heriol i'r diwydiant, mae'n wych gweld dechrau newydd i’r Rhydypennau Inn. Roedd yn bleser ymweld â’r Rhydypennau Inn a gweld tafarn leol sydd wedi derbyn buddsoddiad sylweddol ac wedi cael bywyd newydd o ganlyniad.”

Dywedodd Lawson Mountstevens, rheolwr gyfarwyddwr Star Pubs & Bars:

“Mae’r Rhydypennau Inn wrth galon ei chymuned, yn lle croesawgar lle gall pawb ddod at ei gilydd a chymdeithasu. Rydym yn falch o allu cyfrannu at ddyfodol y Great British Pub trwy uwchraddio’r Rhydypennau Inn ac ehangu ei hapêl. Rydym yn dymuno llwyddiant parhaus i Barrie a blynyddoedd lawer o hapusrwydd tu ôl i'r bar.”

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.