Pam pleidleisio dros Rhodri?
"Rydw i wedi byw yn Ward Melindwr drwy gydol fy mywyd, yn tyfu fyny ym mhentref Pisga gyda’m rhieni a dau frawd. Symudais wedyn i dyddyn yn Llywernog, Ponterwyd, ac yma rydw i wedi bod ers deunaw mlynedd ble rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i adnewyddu bwthyn mwynwr.
Yn ystod fy nghyfnod fel eich cynghorydd ers 2008, rydw i wedi gweithio gyda’r cyngor, asiantaethau eraill a chi, y trigolion i ddod a nifer o welliannau i ardal Melindwr. Mae gen i berthynas dda gyda swyddogion yr awdurdod sydd o fudd mawr pan yn delio gyda achosion i sicrhau y gorau i’r gymuned leol. Yn fy rôl fel cynghorydd, mynychais gyfarfodydd gyda’r dri cyngor cymuned, Melindwr, Blaenrheidol a Mynach. Rwyf yn lywodraethwr yn Ysgolion Penllwyn a Syr John Rhys ac yn aelod o bwyllgor Sioe Capel Bangor, Capel Siloam Cwmystwyth ac yn aelod o Meibion y Mynydd sydd yn dod a mwynhad mawr i mi. Yn ogsytal, rwyf yn cynorthwyo ar adegau gyda C.Ff.I Trisant, sydd yn agos iawn i’m calon wrth i mi fod yn aelod gweithgar ac mae gen i lu o atgofion hapus, yn endwedig o’r ochr actio. Er iddo gael ei ohirio am ddwy flynyedd, edrychaf ymlaen at ailgydio yn fy rôl fel cadeirydd pwyllgor Eisteddfod Ceredigion ar gyfer Blaenrheidol a Phonterwyd.
Yn ystod pandemig Cofid, creais grwp materion Melindwr ar Facebook sydd yn parhau i dyfu. Mae hyn wedi helpu trigolion i gefnogi ei gilydd drwy cyfnodau anodd, gan gasglu meddigyniaethau hanfodol a bwyd i’r rhai mwyaf bregus. Mae wedi galluogi i’r gymuned leol gyfathrebu ac yn y cyfnodau anodd, wedi codi ysbryd ymysg y gymuned."
Blaenoriaethau Rhodri
"Un o’m prif flaenoriaethau yw gwella diogelwch y ffyrdd yn y ward. Yn ystod fy nghyfnod fel cynghorydd, llwyddais i leihau terfynau cyflymder i 20m.y.a o gwmpas ysgolion y ward, ond mae dal angen ymgyrchu i codi lefel diogelwch y ffyrdd i’n plant a’n trigiolion. Mae angen gwelliannau ar yr A44 a’r ffyrdd eraill drwy’r Ward.
Rydym yn parhau i weithio’n ddiwyd i gael band eang cyflymach i’r ward, er i ni lwyddo gwella gwasanaeth ambell ardal mae dal Gwaith i’w wneud. Rydw i hefyd eisiau gweithio’n agos gyda’r awdurdod a chwmniau ffonau symudol i wella signal ffôn o gwmpas ward Melindwr.
Maent yn parhau i weithio ar Pont Rhiwarthen yng Nghapel Bangor i gryfhau’r bont. Mae angen cwblhau’r gwaith yma mor fuan a phosib i leihau’r effeithiau ar fusnesau a ffermwyr sydd yn gorfod addasu eu gwaith o ganlyniad i’r cyfyngder pwysau.
Hoffwn yn ogystal weithio yn agos gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, ac asiantaethau eraill i wella ardaloedd sydd wedi, neu sydd o dan fygythiad llifogydd i leihau’r risg gymaint a bod modd.
Byddwn hefyd yn hoffi edrych ar y posibiliadau o ail gyflwyno gwasanaeth bws drwy Pontarfynach i Aberystwyth gyda chwmnioedd eraill er mwyn medru cynnig trafnidiaeth gyhoeddus i adraloedd mwy gwledig y ward.
Mae rhoi hwb i economi wledig yn flaenoriaeth i mi. Drwy gael cyfleoedd gwaith da yn yr ardal bydd hyn yn annog a denu bobl ifanc i symud neu i aros ac ymgartrefi yn ein cymuned. Fel aelod o bwyllgor Rheoli Datblygiad Ceredigion rwyf eisiau i bobl ifanc gael y cyfle i brynu neu adeiladu cartref gydol oes yn y gymuned ble y magwyd. Mae’r elfen gymunedol yn ofnadwy o bwysig i mi a dymunaf weld mwy o drigolion ifanc yn gallu aros yn yr ardal."
Manylion cyswllt |
07976 266578 |
01970 890437 |
[email protected] |
Dangos 1 ymateb