Mae Plaid Cymru wedi annog Llywodraeth bresennol Cymru i ddefnyddio ei chronfeydd dros ben i rewi drethi cyngor ar unwaith.
Gan gyfeirio at yr £800 miliwn o gyllid sydd heb ei gwario yng nghyllideb Llywodraeth Cymru eleni, defnyddiodd Adam Price AS Gwestiynau i’r Prif Weinidog yr wythnos yma yn y Senedd i dynnu sylw at y ffaith y byddai’n costio £100 miliwn i ganiatáu i gynghorau Cymru rewi'r dreth gyngor a gwrthbwyso’r cynnydd cyfartalog o 4.8% a welwyd llynedd.
Dywedodd AS Ceredigion, Elin Jones:
“Mae cartrefi yng Ngheredigion wedi ei chael hi’n anodd ymdopi gyda’r baich ariannol yn ystod y pandemig.
“Os oedd Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ariannu cynghorau hyd a lled Cymru gyda’r £100 miliwn sydd heb ei gwario eto, yna fyddai’n bosib lleihau’r baich yma ar gartrefi yng Ngheredigion trwy rewi’r trethi cyngor.”
Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price AS:
“Mae unrhyw sôn am y pandemig fel y ‘lefelwr mawr’ wedi cael ei chwalu’n llwyr gan y realiti llym sy’n wynebu miloedd o deuluoedd yng Nghymru.
“Mae Cyngor ar Bopeth Cymru wedi canfod bod teuluoedd Cymru wedi cael eu taro gan gyfanswm o £73 miliwn o ôl-ddyledion oherwydd eu bod yn cael trafferth gyda rhent, biliau ynni neu'r dreth gyngor dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae £13 miliwn yn ymwneud yn benodol ag ôl-ddyledion Treth y Cyngor.
“Dyna pam yr wyf wedi annog Llywodraeth Lafur Cymru i ddefnyddio £100 miliwn o'i chronfeydd sydd heb ei gwario o £800 miliwn i rewi’r dreth gyngor ar unwaith, gan wneud iawn am gynnydd cyfartalog y llynedd o 4.8%.”
Dangos 1 ymateb