Rydw i wedi cael sgyrsiau difyr gyda thrigolion Bow Street, Llangorwen, Dole, a Chlarach am amryw o faterion, ond wrth i'r misoedd oer a thywyll agosáu, mae wedi dod i'r amlwg bod penderfyniad Llywodraeth y DU i dorri’r Taliad Tanwydd Gaeaf yn peri pryder mawr i nifer. Bydd y toriad hwn yn effeithio ar 540,000 o bensiynwyr ledled Cymru, a nifer ohonynt dim ond rhywfaint uwchlaw’r trothwy i hawlio Credyd Pensiwn. Wrth i filiau ynni barhau i gynyddu, bydd miloedd o bobl yn ei chael hi’n anodd i wresogi eu cartrefi yn ystod y misoedd nesaf a chadw dau ben llinyn ynghyd.
Pe bawn i'n ddigon ffodus i gael fy ethol yn Gynghorydd, byddwn yn gweithio gyda fy nghyd-Gynghorwyr Sir a chynrychiolwyr etholedig Plaid Cymru i sicrhau bod pryderon trigolion yn cael eu clywed, ac i annog Llywodraeth y DU i adfer y Taliad Tanwydd Gaeaf. Dylid ailystyried y meini prawf cymhwysedd ar gyfer y Taliad Tanwydd Gaeaf gan ei fod ar hyn o bryd yn diystyru’r pensiynwyr hynny sydd ond ychydig dros y trothwy o fod yn gymwys ar gyfer Credyd Pensiwn, ond sydd dal yn gorfod wynebu’r un costau cynyddol.
Dylid ystyried atebion tecach, gan gynnwys cynyddu’r oedran y gall pensiynwyr ei hawlio, er mwyn sicrhau bod y rhai mwyaf bregus yn parhau i gael cymorth. Bydd torri’r Taliad Tanwydd Gaeaf ond yn gwaethygu’r pwysau ar y GIG sydd eisoes o dan bwysau anferthol, gan y bydd y nifer o bobl bregus sydd methu gwresogi eu cartrefi’n ddigonol yn cynyddu ac yn fwy tebygol o fynd yn sâl. Bydd hyn yn y pen draw yn cynyddu’r niferoedd bydd angen triniaeth a gofal meddygol gan roi pwysau ychwanegol ar y wasanaeth iechyd.
Mae cael gwared ar y Taliad Tanwydd Gaeaf ond yn un broblem mewn cyd-destun ehangach. Ni fydd toriadau pellach—boed hynny i wasanaethau cyhoeddus neu’n uniongyrchol i incwm pobl—yn trwsio unrhyw beth. Mewn gwirionedd, mae angen buddsoddiad go iawn yn ein cymunedau er mwyn caniatáu iddynt ffynnu. Rhaid i Lywodraeth Lafur y DU ailfeddwl, ac ystyried o ddifri beth yw ei blaenoriaethau, tra bod angen i Lywodraeth Cymru ariannu llywodraethau lleol yn decach, fel y gall cynghorau ddarparu’r gwasanaethau y mae ein cymunedau eu hangen ac yn eu haeddu.
Ochr yn ochr ag Elin Jones AS a Ben Lake AS, byddaf yn gwthio’r ddwy lywodraeth i sicrhau bod ardaloedd gwledig fel ein un ni yn cael bargen decach. Gyda’n gilydd, gallwn gyflwyno’r achos dros lunio polisïau teg sydd wir yn cymryd anghenion pobl mewn i ystyriaeth ac yn amddiffyn y rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas er mwyn adeiladu dyfodol gwell i bawb.
Yn y cyfamser, mae'n hanfodol bod pawb yn ymwybodol o’r gefnogaeth sydd ar gael iddynt, a pha fudd-daliadau y gallant eu hawlio. Mae Age Cymru yn cynnig cyngor ac arweiniad defnyddiol i bobl sy'n ansicr a ydynt yn gymwys i gael Credyd Pensiwn neu unrhyw fudd-daliadau eraill. Cliciwch YMA i ddefnyddio'r gyfrifiannell i weld pa fudd-daliadau gallai fod ar gael i chi.
Dyma ambell ddolen ddefnyddiol am ragor o wybodaeth:
Dangos 1 ymateb