Ymateb i ddatganiad Canghellor y DU: 20/03/2020

Copy_of_Update_Coronavirus_20_03.png

Mewn ymateb i ddatganiad diweddaraf Canghellor y Deyrnas Unedig ar 20 Mawrth 2020:

https://www.gov.uk/government/speeches/the-chancellor-rishi-sunak-provides-an-updated-statement-on-coronavirus

Datganiad gan Ben Lake AS

“Mae’r pecyn cynhwysfawr a gyflwynwyd gan y Canghellor heddiw yn gam sylweddol iawn yr wyf yn ei groesawu. Mae'n mynd i sicrhau na fydd gweithwyr ar eu colled yn ariannol oherwydd argyfwng y Coronavirus.

“Fodd bynnag, rhaid i weithwyr hunangyflogedig, gweithwyr llawrydd, fasnachwyr unigol, a gweithwyr yn yr economi gig gael yr un lefel o gefnogaeth â gweithwyr cyflogedig. Rhaid i hyd at £2,500 hefyd fod ar gael ar gyfer y gweithwyr hunangyflogedig fydd yn colli cwsmeriaid neu'n colli incwm dros y misoedd nesaf.
 
“Mae angen eglurder arnom o hyd ynghylch yr hyn fydd yn digwydd os bydd cwmnïau’n mynd allan o fusnes oherwydd yr argyfwng ac a fydd gweithwyr a gyflogir gan y cwmnïau hynny yn colli’r 80% o’u cyflog a ddarperir gan y llywodraeth.
 
“Mae Plaid Cymru yn galw am incwm sylfaenol cyffredinol dros dro brys fyddai'n rhoi sicrwydd ariannol i bawb drwy gydol yr argyfwng. Wedi dweud hynny, mae hwn, ar yr olwg gyntaf, yn ymyrraeth i'w chroesawu yn ystod y cyfnod argyfyngus sydd ohoni."

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.