AS Ceredigion yn galw am ddiwygio fformiwla cyllido'r heddlu

Ben_Lake_Give_a_Day_to_Policing_2019.jpg

Ar ôl bod yn cysgodi swyddogion Heddlu Dyfed Powys yn Aberystwyth yn ddiweddar, mae AS Ceredigion wedi annog Llywodraeth y DU unwaith eto i adolygu fformwla ariannu’r heddlu mewn ardaloedd gwledig.

Ymwelodd Mr Lake â swyddfa heddlu Aberystwyth fel rhan o ymgyrch #GiveADayToPolicing, cynllun ar gyfer Aelodau Seneddol i sicrhau gwell dealltwriaeth o’r heriau cyfredol sy’n wynebu lluoedd heddlu ar draws y DU.

Yn ystod yr ymweliad cafodd Mr Lake gyfle i brofi agweddau amrwyol o blismona lleol – o dreulio amser gyda’r tîm plismona yn y gymdogaeth, cwrdd â swyddogion o wahanol adrannau, a thrafod heriau plismona gyda swyddogion y rheng flaen.

Mae Mr Lake wedi herio Llywodraeth y DU nifer o weithiau i ddiwygio ei fformwla ariannu heddlu – gan amlygu’r angen y dylai’r fformwla ariannu ystyried pwysau tymhorol ar luoedd, yn arbennig y cynnydd sylweddol ym mhoblogaeth ardaloedd arfordirol yn ystod misoedd yr haf.

Dywedodd Mr Lake:  “Rwy’n ddiolchgar iawn i swyddogion swyddfa heddlu Aberystwyth am eu croeso, ac am roi o’u hamser i siarad â mi.  Mae gennyf nawr well dealltwriaeth o’r heriau sy’n wynebu’n swyddogion, yn ogystal â pharch ac edmygedd dyfnach o’u gwaith a’u hymrwymiad i ddiogelwch y cyhoedd.

“Fel yr wyf wedi dweud yn flaenorol, nid yw’r un ateb yn addas wrth ymdrin â gwaith yn effeithiol ar draws y DU, ac o’r herwydd, mae'n hanfodol bod y meini prawf a ddefnyddir i ddyrannu grant heddlu'r Swyddfa Gartref yn cael eu hadolygu fel eu bod yn adlewyrchu’r galwadau cynyddol a’r heriau unigryw sy’n wynebu lluoedd gwledig fel Ceredigion, yn arbennig yn ystod misoedd yr haf.”

Ychwanegodd Mr Lake:  Cydnabyddir yn eang bod lluoedd heddlu Cymru wedi dioddef o dan y fformwla ariannu presennol, ac felly mae’n hen bryd i Lywodraeth y DU un ai addasu’r fformwla yn unol â hynny, neu ddatganoli’r cyfrifoldeb o blismona i Lywodraeth Cymru fel y gallant hwy wneud hynny ei hunain.”

 

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.