Galwadau i ostwng y cyfyngder cyflymdra ar yr A487 rhwng Aberteifi a Phenparc

14062021_Cardigan.jpg

Mae Ben Lake AS, Elin Jones MS a'r Cyng. Mae John Adams-Lewis wedi ysgrifennu eto at Lywodraeth Cymru yn galw am gyflwyno mesurau brys ar Myrtle Hill a’r darn o ffordd rhwng Aberteifi a Penparc.

Mae sawl damwain wedi bod ar gornel Myrtle Hill dros y blynyddoedd, ac yn sgil hyn mae’r cornel bellach yn cael ei adnabod yn lleol fel ‘Killer bend’. Yn ystod wythnosau olaf Ionawr 2020 yn unig, digwyddodd dwy ddamwain ddifrifol ar y cornel: un yn achosi difrod i bolyn telegraff cyfagos, ac un arall yn achosi difrod sylweddol i eiddo preswyl. Cyfarfu’r Cyng, John Adams-Lewis a Ben Lake AS â thrigolion lleol yn dilyn damweiniau Ionawr 2020 ac wedi hynny ysgrifennwyd at Lywodraeth Cymru ac Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru yn eu hannog i weithredu.

Ers hynny, bu mwy o ddamweiniau a damweiniau agos, gyda'r mwyaf diweddar yn digwydd ar yr 28ain o Fai 2021 oedd yn ymwneud â lori, ac fe gaewyd y ffordd am sawl awr.

Mae'r rhan hon o'r A487 yn rhan o'r Llwybr Beicio Cenedlaethol, ac mae wedi denu nifer cynyddol o feicwyr yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Defnyddir y ffordd hefyd i godi a gollwng plant ysgol, er nad oes llwybr na phalmant diogel iddynt ei ddefnyddio.

Dywedodd Elin Jones AS: 

“Mae hyn wedi bod yn achos pryder ers amser, ond mae'r sefyllfa wedi gwaethygu yn ystod y misoedd diwethaf oherwydd bod mwy o draffig o ganlyniad i lwyddiant busnesau rhwng Aberteifi a Penparc, a hefyd y cynnydd rhyfeddol mewn twristiaeth yn yr ardal. Er bod y ddau ddatblygiad i'w croesawu, maent serch hynny yn golygu y bu cynnydd yn nifer y modurwyr sy'n anghyfarwydd â'r cornel. ”

Dywedodd y Cyng. John Adams-Lewis: 

“Mae'n ddealladwy bod nifer y damweiniau a'r damweiniau a fu bron â digwydd yn destun pryder difrifol i drigolion lleol, ac yn enwedig preswylwyr eiddo cyfagos. Rydym wedi gofyn i Lywodraeth Cymru ymestyn y terfyn cyflymder o 40mya o’i phen presennol ar gyffordd Cae Morgan, i bentref Penparc, fel ei fod yn cwmpasu’r cornel o’r ddau gyfeiriad. ”

Ychwanegodd Ben Lake AS:  

“Rydyn ni hefyd wedi gofyn i’r Gweinidog ystyried ymestyn y palmant presennol rhwng cyffordd Cae Morgan a Kelsion Boarding Kennels, a fyddai i bob pwrpas yn agor llwybr diogel di-dor 4.6 milltir yn cysylltu tref Aberteifi â phentrefi Penparc, Tremain a Blaenporth.”


Dangos 1 ymateb

  • Carys Lloyd
    published this page in Newyddion 2021-06-14 16:22:20 +0100

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.