Argyfwng Recriwtio Meddygon

Mae AC Plaid Cymru Ceredigion Elin Jones wedi defnyddio’r ddadl ddiwethaf y Cynulliad Cenedlaethol presennol i amlinellu'r mesurau brys sydd eu hangen i fynd i'r afael â’r diffyg meddygon teulu yng nghefn gwlad Cymru.

Elin yn nghanolfan hyfforddi meddygon

 

Dywedodd AC lleol Ceredigion Elin Jones;
“Mae gofal sylfaenol yn hanfodol i'r gwasanaeth iechyd modern, ymatebol yr ydym am weld yn y dyfodol. Caiff ei esgeuluso'n rhy aml, ac mae’r gyfran o gyllideb y GIG yn cael ei wario ar feddygfeydd meddygon wedi gostwng dros y blynyddoedd diwethaf.
“Does dim cymaint o argyfwng ym mhob ardal, ond yn sicr yng Ngheredigion ac ardaloedd gwledig eraill mae llawer yn pryderu ar hyn o bryd. Gwyddom y bydd llawer yn ymddeol yn ystod y blynyddoedd nesaf, ac mae diffyg meddygon teulu yn dod drwy'r system i weithio yn ein meddygfeydd. Fe gaeodd meddygfa yn Aberaeron, ac fe fydd mwy o'r un peth oni chymerir camau priodol.
“Felly, mae Plaid Cymru wedi sefydlu cynllun i hyfforddi a recriwtio 1,000 o feddygon ychwanegol dros gyfnod o 10 mlynedd, ar ôl etholiad y Llywodraeth Cymru nesaf, ynghyd â chymhellion feddygon i weithio mewn meysydd ac arbenigeddau lle ceir prinder.
“Mae'n amser i’n hysgolion meddygol i gael cwota uchelgeisiol ar gyfer myfyrwyr o Gymru. Mae digon o alw gan ddarpar fyfyrwyr sydd â chymwysterau da am leoedd yn ein hysgolion meddygol. Mae’r holl dystiolaeth yn edrych fel ei fod yn awgrymu bod myfyrwyr meddygol yn llawer mwy tebygol o aros yn gweithio yn y gwasanaeth iechyd yn yr un ardal os ydynt yn dod o ddalgylch yr ysgol feddygol yn wreiddiol.”

Dangoswch eich cefnogaeth

Mae Elin Jones a Ben Lake yn gweithio dros bawb yng Ngheredigion. Dangoswch eich cefnogaeth a dewch yn rhan o'u gwaith i sicrhau Ceredigion well.