I ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched eleni, mae Ben Lake, yr AS lleol yn rhoi cyfle i ferched ifanc Ceredigion i rannu eu barn a’u syniadau yng ngweithdy ‘Amser i Siarad’, fel rhan o ymgyrch Young Women’s Trust i sicrhau bod merched ifanc yn rhan o gymryd penderfyniadau ar bob lefel.
Nod gweithdy ‘Amser i Siarad’ yw annog merched ifanc i gymryd diddordeb mewn materion gwleidyddol a chymdeithasol er mwyn newid eu bywydau a’u cymunedau. Bydd y gweithdy’n rhoi cyfle i gyfranogwyr rannu eu profiadau, gofyn cwestiynau, herio’r drefn a chynnig syniadau am ddyfodol gwell - ymgodymu â materion fel cyflog byw, tlodi misglwyf, mynediad i wasanaethau iechyd meddwl a’r heriau sy’n wynebu merched ifanc mewn ardal wledig.
Mae’r AS yn gwahodd merched rhwng 16 a 30 oed yng Ngheredigion i Gaffi Amgueddfa Ceredigion ar brynhawn Mawrth yr 8fed rhwng 4.30 a 6.00 o’r gloch. Gobaith Ben yw dysgu mwy am y materion mae merched ifanc yn eu hwynebu, yn arbennig mewn etholaeth wledig fel Ceredigion, ac yna rhoi sylw i’r materion hynny ar eu rhan yn San Steffan.
Dywedodd Ben Lake:
“Ein dyletswydd, fel cynrychiolwyr etholedig, yw i gysylltu’n rhagweithiol gyda merched ifanc a rhoi llais i ymgyrchwyr ifanc – does gan neb fwy o ddiddordeb i greu dyfodol gwell a chyfartal na hwy.
"Mae’n amser i ni wrando ar farn yr ifanc. Rwy’n gwybod bod llawer yn teimlo eu bod yn cael eu diystyru gan wleidyddion o bob lliw, felly rwyf am gymryd y cyfle i wrando arnynt ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched.
"Rwy’n gwybod bod gwledyddion yn cymryd penderfyniadau gwell pan fyddant yn gwrando ac rwy’n gobethio’n wir y byddaf yn gallu cynrychioli barn merched ifanc lleol yn y San Steffan.”
Bydd gweithdy “Amser i Siarad” yn cael ei redeg gan griw o ferched ifanc lleol. Un ohonynt yw Nia Edwards-Behi.
Dywedodd Nia:
“Rwy’n hapus iawn i fod yn rhan o ddigwyddiad fel hwn. Materion yn ymwneud â merched oedd dechrau fy niddordeb mewn gwleidyddiaeth, ac mae’n bwysig cofio bod y materion yma’n rhai personol yn ogystal â bod yn rhai gwleidyddol. Mae’r digwyddiad yn gyfle gwych i ferched yr ardal i leisio’u gofidiau pennaf, ac i rannu rhain gyda rhywun gall ddechrau gweithredu newid ar eu rhan. Rwy’n gobeithio bydd y merched ifanc yn gweld ei bod hi’n bosib ymwneud â gwleidyddiaeth heb fod yn rhan o’r byd hynny eu hunain – er, rwyf hefyd yn gobeithio y bydd y digwyddiad yn ysgogiad i’r rheiny sy’n dymuno mentro i’r maes.”