Yn gynharach yn y mis, teithiodd Ben Lake AS i ganol Mynyddoedd y Cambrian i gwrdd â thîm o ymchwilwyr Canolfan Ymchwil yr Ucheldir ym Mhwllpeiran.
Pwllpeiran, sy’n rhan o IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth, yw’r unig fferm ucheldir arbrofol yng Nghymru sy’n eiddo cyhoeddus ac ers ymron i ganrif mae wedi chwarae rhan allweddol yn natblygiad amaethyddiaeth yng Nghymru.
Mae 80% o ddefnydd tir amaethyddol yng Nghymru yn cael ei ddosbarthu fel ‘Ardal Llai Ffafriol’ a’r mwyafrif o ffermydd o fewn yr ardaloedd hyn yn cael eu cyfyngu i fagu defaid a gwartheg ar raddfa eang yn sgil cyfuniad o amodau rhwystredig megis uchder, nodweddion pridd a thywydd. Dros y blynyddoedd, prif nod Pwllpeiran fu gwella yn sylweddol hyfywedd ffermio yn yr ucheldir er mwyn sicrhau y bydd cynhyrchiant amaethyddol yn parhau yn yr ardaloedd o dan anfantais gan atal yr un pryd ddiboblogi gwledig.
Dywedodd Ben Lake:
“Bu’n brofiad cyfareddol i ddysgu mwy am yr ymchwil arloesol sy’n mynd rhagddo ym Mhwllpeiran, ac yn arbennig o ddiddorol i ddysgu sut y mae nifer o adrannau wedi cydweithredu ar gynlluniau, megis y bartneriaeth gyda’r Adran Gyfrifiadureg yn natblygiad dronau di beilot i gofnodi symudiadau anifeiliaid yn yr ucheldir.”
Tywyswyd Mr Lake o gwmpas setiau gwahanol o randiroedd arbrofol yn y ganolfan gan Dr Mariecia Fraser, John Davies a Ben Roberts sy’n fyfyriwr PhD gan gynnwys yr ymchwil arloesol yn ymwneud â phlannu 21 tunnell o fylbiau cennin pedr. Mae cennin pedr yn cynhyrchu cemegyn o’r enw galanthamine, cyfansoddyn a ddefnyddir wrth drin afiechyd Alzheimer’s. Cennin Pedr yw’r unig blanhigyn sy’n ddichonadwy economaidd i’w gynhaeafu ym Mhrydain, ac mae astudiaethau cynnar yn awgrymu y gall sialensiau amgylcheddol sy’n gysylltiedig â’r ucheldir sbarduno mwy o gnwd o galanthamine mewn cennin pedr. Gan weithio ar y cyd gyda Phrifysgol Harper Adams mae Pwllpeiran yn gobeithio y bydd canlyniadau’r prosiect hwn yn cynyddu cynaladwyedd economaidd ffermio mynydd trwy ddarparu cnwd gwerthfawr i ffermwyr ochr yn ochr â’r dulliau traddodiadol o ffermio yn yr ucheldir.
Dywedodd Dr Fraser:
“Roeddem yn hynod o falch o groesawu Ben Lake i Pwllpeiran. Mae cydweithrediad yn holl bwysig os ydym am sicrhau dyfodol i’n hucheldir sy’n diogelu nwyddau cyhoeddus pwysig a’r gwasanaeth holl bwysig maent yn eu rhoi i gadw cymunedau gwledig mewn ardaloedd ymylol.”
Dywedodd Mr Lake:
“Roeddwn yn falch o weld ymchwil mor flaengar yng Ngheredigion. Yn wyneb ansicrwydd economaidd y dyfodol mae’n bwysig ein bod ni nid yn unig yn gwneud y math hyn o waith ymchwil ymchwil ond ein bod ni’n medru defnyddio'r canlyniadau er budd ymarferol i’r diwydiant – dyma’r union reswm paham fod Pwllpeiran yn gyfleuster anhepgor.”